Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc.

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 i gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb. Mae’r cynnig yn gwneud yn barhaol gydag addasiadau priodol drefniadau dros dro a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae arolwg o awdurdodau lleol sef yr awdurdodau derbyn ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn awgrymu bod y trefniadau hyn yn gweithio’n dda ac wedi arwain at arbedion o ran amser a chostau i awdurdodau derbyn, paneli apêl a rhieni fel ei gilydd.

Esboniwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant.

Ni fydd y cynnig yn effeithio ar hawliau plant. Mae gan rieni hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i’w plentyn ei mynychu, a phan fo lle ar gael, rhaid i’r awdurdod derbyn gynnig lle iddynt fel arfer. Mae gan rieni y gwrthodir lle ysgol i’w plentyn, neu bobl ifanc y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, hawl statudol i apelio i banel apêl annibynnol. Mae apelwyr, gan gynnwys pobl ifanc, y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, yn cadw’r hawl i wneud sylwadau llafar yn eu hapêl. Nid yw’r newidiadau yr ydym yn eu cynnig yn cael unrhyw effaith ar hyn. 

Mae’r broses apelau derbyn i ysgolion yn seiliedig ar gyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw.

Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb.

Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn parhau i ddiogelu buddiannau rhieni, plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod apelau derbyn i ysgolion yn cael eu gweinyddu yn y ffordd fwyaf teg a chyfartal posibl.

Erthygl CCUHP Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut y byddwch yn lliniaru effeithiau negyddol?

Erthygl 12: parchu barn y plentyn Mae effaith negyddol bosibl ar blant a phobl ifanc na allant (naill a nhw eu hunain neu eu rhieni) fod yn bresennol yn eu hapêl o bell am eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Ni waeth pa fforwm a ddewisir, hy boed wyneb yn wyneb neu o bell, rhaid i baneli apêl ganiatáu cyfle i apelwyr wneud sylwadau llafar ac egluro eu hapêl ysgrifenedig.

Mae canlyniadau ein harolwg o swyddogion derbyn i ysgolion awdurdodau lleol yn awgrymu y gallai apelwyr deimlo’n fwy cyfforddus yn delio ag apêl o bell yn eu cartref eu hunain.

Noda’r Cod Apelau y gall rhieni gael eu cynrychioli gan gyfaill neu gynghorydd.

Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Bydd gan yr awdurdod derbyn y disgresiwn i benderfynu a yw apelau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, o bell neu drwy gyfuniad o’r ddau. 

Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw.

Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor lawn â phosibl.

Erthygl 28: yr hawl i gael addysg

Nid oes effaith ar hawl plentyn i addysg.

Defnydd effeithlon o adnoddau.

Mae gan rieni hawl i apelio penderfyniad gan awdurdod derbyn i wrthod derbyn eu plentyn. Mae gan bobl ifanc hawl i apelio penderfyniad i wrthod derbyn i chweched dosbarth ysgol.

Ein nod yw rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau derbyn reoli apelau mewn ffordd sy’n gweddu i amgylchiadau lleol orau, gan sicrhau hefyd fod rhieni a phobl ifanc sy’n apelio yn erbyn penderfyniad derbyn yn cael eu cefnogi a bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw.

Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn darparu hyblygrwydd o ran ffurf gwrandawiadau apêl ond byddant yn cynnal rhwymedigaethau ynghylch cyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Nid ydym yn cynnig dileu unrhyw rai o ddyletswyddau clercio apelau derbyn. Mae clercod yn cyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg.

Mae awdurdodau derbyn wedi hen arfer â deall anghenion teuluoedd yn yr ardal, a’u diwallu.