Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae gan rieni hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i’w plentyn ei mynychu, a phan fo lle ar gael, rhaid i’r awdurdod derbyn (yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn dibynnu ar y math o ysgol) gydymffurfio â’r dewis hwnnw fel arfer. Mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn i beidio â chynnig lle i’w plentyn yn yr ysgol sydd orau ganddynt.

Ymdrinnir â dau gategori ar wahân o apelau derbyn o dan y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (“y Cod Apelau”):

  • Apelau yn erbyn penderfyniad awdurdod derbyn i wrthod derbyn i ysgol a gynhelir. 
  • Apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol (sef yr awdurdod derbyn ar eu cyfer) i dderbyn plentyn i’w hysgol sydd wedi’i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy cyn hynny.

Mae paneli apelau derbyn yn annibynnol ar yr awdurdod derbyn. Fel rhan o’i drafodaethau, dylai’r panel ystyried a yw’r awdurdod derbyn wedi gweithredu ei drefniadau derbyn yn gywir wrth ddod i’w benderfyniad.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn rhagnodi materion sy’n ymwneud ag apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion yn gosod gofynion gorfodol ar awdurdodau derbyn er mwyn sicrhau bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw.

Wrth ymgymryd â’u swyddogaethau derbyn i ysgolion, rhaid i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion (pan nad ydynt yn gweithredu fel awdurdodau derbyn) a phaneli apêl gydymffurfio â Rheoliadau 2005, y Cod Derbyn i Ysgolion a’r Cod Apelau.

Mae Rheoliadau 2005 a’r Cod Apelau ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl yn bersonol (wyneb yn wyneb).

Diwygiadau dros dro i drefniadau apelio yng Nghymru

Oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19, nid oedd bob amser yn bosibl nac yn briodol cydymffurfio â’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005. Er enghraifft, roedd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol yn ei gwneud yn amhosibl cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb.

Felly cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020. Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau 2005 a’r Cod Apelau dros dro i roi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol a phaneli apêl wrth ymdrin ag apelau yn ystod yr argyfwng.

Roedd y newidiadau dros dro yn darparu pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i banel apêl derbyn gydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol yn y Cod Apelau neu yn Atodlen 2 i Reoliadau 2005 ynghylch bod yn bresennol mewn apelau am reswm yn ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, roeddent yn gallu cynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd.

Cafodd y newidiadau dros dro eu hymestyn ddwywaith. Daeth Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 i ben ar 30 Medi 2022 (yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol penodol ar gyfer apelau a oedd eisoes yn yr arfaeth ar y dyddiad hwnnw).

Adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau dros dro

Yn ystod haf 2022, cynhaliodd swyddogion adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau dros dro ar ffurf arolwg o Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, sydd â chynrychiolaeth o bob un o’r 22 awdurdod lleol ac awdurdodau esgobaethol. Ymatebodd 18 awdurdod lleol, ynghyd ag un awdurdod esgobaethol a ymatebodd ar ran ysgolion y mae’r corff llywodraethu yn awdurdod derbyn iddynt mewn un ardal awdurdod lleol.

Dangosodd dadansoddiad o’r ymatebion i’r arolwg, ers i’r trefniadau dros dro ddod i rym, bod cyfanswm o 3,543 o apelau gan ymatebwyr wedi’u clywed, a bod 2,937 (83%) ohonynt wedi’u cynnal o bell. Roedd 943 o apelau yn llwyddiannus. Roedd yr adborth gan yr ymatebwyr yn gadarnhaol, gan awgrymu bod y trefniadau dros dro yn gweithio’n dda ac yn cynnig buddion i awdurdodau lleol, awdurdodau derbyn, ysgolion a phaneli apêl o ran lleihau amser a chostau.

Rhannodd nifer o awdurdodau lleol adborth cadarnhaol roeddent wedi’i gael gan rieni. Roedd hyn yn cynnwys rhieni yn peidio â gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, peidio â gorfod trefnu gofal plant a pheidio â gorfod teithio i leoliadau i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau. Adroddodd awdurdodau lleol hefyd y canfyddiad bod teuluoedd i weld yn fwy cyfforddus yn delio â’u hapêl gartref yn eu hamgylchedd eu hunain. Rydym yn gobeithio casglu mwy o dystiolaeth ynghylch barn uniongyrchol rhieni am y trefniadau hyn drwy’r ymgynghoriad ffurfiol.

Cafwyd rhai problemau cychwynnol gyda TG, a oedd fel arfer yn cael eu datrys yn gyflym. Dros gyfnod y trefniadau dros dro, mae awdurdodau derbyn a phaneli apêl wedi dod i arfer â chynnal apelau o bell ac wedi rhoi’r dechnoleg a’r gefnogaeth angenrheidiol ar waith i’w hwyluso.

Codwyd rhai pryderon ynghylch defnyddio apelau ysgrifenedig fel dewis cyntaf, gydag un awdurdod yn gofyn am benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig yn unig pan na fo gwrandawiadau wyneb yn wyneb nac o bell yn bosibl.

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi gofyn am gadw’r hyblygrwydd a ddarperir gan apelau o bell a’i wneud yn barhaol. 

Rydym felly yn ymgynghori ar newidiadau i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 i ychwanegu opsiwn ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb.

Adran 8: datganiad

Datganiad

Rwy’n fodlon bod effaith y cam gweithredu arfaethedig wedi cael ei hasesu a’i chofnodi’n ddigonol.

Enw’r Uwch-swyddog Cyfrifol / y Dirprwy Gyfarwyddwr: Emyr Harries

Adran: Y Gyfarwyddiaeth Addysg

Dyddiad: X Ionawr 2023