Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 09 Mawrth 2023
Ymatebion erbyn: 31 Mai 2023

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio'ch barn ar newidiadau arfaethedig i Bennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru, yn bennaf ar fudd net i fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. O ganlyniad i'r newidiadau hyn ceir rhai newidiadau ychwanegol i benodau eraill neu newidiadau nad ydynt yn gwbl gysylltiedig â phrif ddiben yr ymgynghoriad. Mae'r rhain wedi'u dogfennu yn y ddogfen ymgynghori fel rhai atodol i'r prif newidiadau.

Sut i ymateb

Ymatebwch i'r ymgynghoriad hwn drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb. Gellir cyflwyno ymatebion mewn nifer o ffyrdd: 

Ar-lein [LLYW.CYMRU]
E-bost: planconsultations-d@llyw.cymru

Post: Newidiadau Arfaethedig i PCC ar Fudd Net i Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 
Cangen Polisi Cynllunio, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

Wrth ymateb, nodwch p'un a ydych yn ymateb yn bersonol neu'n cynrychioli barn sefydliad.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae'r ddogfen hon ar gael mewn fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd ar gais.
 

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

ebost: planningpolicy@llyw.cymru 

Ffôn0300 025 3711

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld,
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny,
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’,
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data,
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
K9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cyflwyniad

Yn ystod Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 y Cenhedloedd Unedig cytunodd arweinwyr o bob rhan o'r byd ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang uchelgeisiol newydd i roi'r byd ar ben ffordd tuag at adfer natur erbyn diwedd y degawd. Drwy fod yn bresennol yn COP15, ychwanegodd Cymru ei llais drwy bwyso am weithredu trawsnewidiol ar fyrder ym mhob rhan o gymdeithas. Gwnaethom bwysleisio'r rôl allweddol y mae llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn ei chwarae i gynnal a gwella bioamrywiaeth a chymryd camau ym maes cynllunio, gweithredu, a monitro. Yn awr, mae'n rhaid inni gamu ymlaen a sicrhau ein bod yn gweithredu i wireddu ein huchelgeisiau.

Er mwyn cefnogi COP15, fe wnaethom gwblhau ein hymarfer Plymio Dwfn ein hunain o Fioamrywiaeth yn ddiweddar, gan gytuno ar gyfres o gamau gweithredu i'w cymryd ar y cyd yng Nghymru i warchod rhai o'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr a'u rheoli'n effeithiol a helpu byd natur i adfer.

Cafodd Polisi Cynllunio Cymru ei ddiwygio'n llawn yn 2018 i adlewyrchu Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a helpu i roi Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar waith drwy'r system gynllunio Polisi Cynllunio Cymru (PCC)  

Yn hydref 2019, mewn llythyr gan y Prif Swyddog Cynllunio, rhoddwyd rhagor o arweiniad ar gymhwyso dyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ynglŷn â sicrhau gwelliannau a nododd y dylid gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer y datblygiad os nad oedd modd cyflawni hyn. 

Cyhoeddwyd llythyr arall gan y Prif Swyddog Cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae'n rhaid i'r system gynllunio ei chwarae i ymateb i'r heriau a osodwyd gan COP15, argymhellion yr ymarfer Plymio Dwfn ac wrth gyflawni dyletswydd Adran 6 yng Nghymru. COP15, ymarfer plymio dwfn ar fioamrywiaeth, dyletswydd adran 6 a'r system gynllunio Cyfeiriodd y llythyr hefyd at ffaith y byddai newidiadau arfaethedig i PCC yn cael eu cyflwyno.

Beth yw testun ein hymgynghoriad?

Prif ddiben yr ymgynghoriad hwn yw diweddaru polisi yn adran 6.4 o PCC ynglŷn â budd net i fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau mewn ffordd a dargedir, a chryfhau'r polisi ynglŷn â safleoedd dynodedig, yn enwedig Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a choed a choetiroedd. Mae hyn yn golygu newidiadau i adran 6.2 ar Seilwaith Gwyrdd, o ystyried y berthynas agos rhwng hynny a sicrhau cynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. 

O ganlyniad i'r newidiadau sylfaenol hyn, bydd newidiadau canlyniadol i Adran 5.14 Mwynau (paragraff 5.14.37) ac Adran 6.6 Dŵr a Risg Llifogydd (paragraffau 6.6.1, 6.6.5 a 6.6.6) ac adran ragarweiniol Pennod 6. 

Caiff newid anghysylltiedig ei wneud i baragraff 6.3.10 ar Barciau Cenedlaethol er mwyn cywirdeb.

Nid ydym yn gofyn am sylwadau ar unrhyw agweddau eraill ar PCC ar hyn o bryd heblaw'r rhai sydd wedi'u tracio'n newidiadau yn y ddogfen sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig a gyhoeddir ar y cyd â'r ymgynghoriad.

Atodir Atodiad 1 i'r ddogfen ymgynghori hon ar ‘Sicrhau Budd Net i Fioamrywiaeth – Egwyddorion Drafft ar gyfer Ymgeiswyr Cynllunio’ er mwyn rhoi gwybodaeth gefndir ac nid ydym yn gofyn am sylwadau ar y ddogfen hon ar hyn o bryd. Mae'r ddogfen hon wedi llywio'r newidiadau i adran 6.4 yn y ddogfen sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig a dim ond er mwyn rhoi'r cyd-destun y mae wedi cael ei darparu.

I grynhoi, mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

Y newidiadau sylfaenol canlynol:

Adran 6.4 cynigir newidiadau amrywiol i'r adran hon ar fudd net a chydnerthedd ecosystemau sy'n ymgorffori'r egwyddorion drafft a geir yn Atodiad 1 i'r ddogfen ymgynghori hon. Mae'r polisi fesul cam wedi cael ei ailddrafftio; mae'r polisi ynglŷn â safleoedd dynodedig wedi cael ei gryfhau; mae'r testun yn y blwch oren ar ‘Gweithredu Dyletswydd Adran 6 a fframwaith DECCA’ wedi cael ei ddiweddaru; ac mae'r polisi ar goed a choetiroedd wedi cael ei gryfhau.

Adran 6.2 cynigir newidiadau i'r adran hon yng ngoleuni'r newidiadau a gynigir yn adran 6.4 ar fudd net i fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Achubir ar y cyfle i roi mwy o gyfarwyddyd ynglŷn â sicrhau seilwaith gwyrdd. Mae angen cyflwyno datganiad seilwaith gwyrdd ar y cyd â cheisiadau cynllunio ac os nad yw'r awdurdod lleol yn cynnig dull gweithredu, gan gynnwys canllawiau cynllunio atodol, dylid defnyddio Safonau gyda Natur fel rhestr wirio er mwyn sicrhau bod ystyriaeth briodol wedi cael ei rhoi. Argymhellir achredu o dan y Safonau Adeiladu gyda Natur lle bynnag y bo modd. 

Y newidiadau canlyniadol canlynol:

Adran 5.14 Mwynau - paragraff 5.14.37 i wneud y paragraff hwn yn gyson â'r newidiadau arfaethedig i safleoedd wedi'u dynodi am resymau bioamrywiaeth. 

Adran 6.6 Dŵr a Risg Llifogydd – paragraffau 6.6.1, 6.6.5 a 6.6.6: Cynigir y dylid gwneud nifer o fân newidiadau i'r geiriad er mwyn adlewyrchu budd net a chydnerthedd ecosystemau yn well ynghyd â rhoi mwy o gydnabyddiaeth i atebion sy'n seiliedig ar natur a manteision cymryd camau cydategol i fynd i'r afael â llygredd ac adfer cynefinoedd afonydd.

Paragraffau rhagarweiniol i Bennod 6 gwneir newidiadau amrywiol sy'n adlewyrchu'r prif newidiadau a wnaed i adran 6.4. 

Newid anghysylltiedig er mwyn cywirdeb:

Paragraff 6.3.10 Parciau Cenedlaethol: mae angen mân newid er mwyn adlewyrchu dibenion statudol Parc Cenedlaethol yn briodol a gallu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) i'w diogelu. Ystyrir bod angen i APCau allu penderfynu beth mae ‘mawr’ yn ei olygu, yn dibynnu ar y cyd-destun lleol a'r cais penodol dan sylw. Cynigir y dylid dileu testun er mwyn unioni hyn.

Gwybodaeth ychwanegol am ddefnyddio metrigau bioamrywiaeth

Er nad yw'r newidiadau arfaethedig yn cyfeirio'n benodol at fetrig bioamrywiaeth ac nad yw dull gweithredu o'r fath wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cydnabyddir y gall metrigau chwarae rôl o dan rai amgylchiadau, ond dim ond pan fyddant yn adlewyrchu'r ddyletswydd Adran 6 lawn a geir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gan gynnwys fframwaith ‘DECCA’ (gweler paragraff 6.4.9 o'r ddogfen sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig).  

I'r perwyl hwn, cydnabyddir manteision methodoleg safonol a thryloyw, ynghyd â phroblemau ac anfanteision ceisio cymhwyso ‘un ateb i bopeth’ at system hynod gymhleth. Fodd bynnag, byddai dull o fesur a oes modd sicrhau budd net i fioamrywiaeth, neu a yw budd o'r fath wedi'i sicrhau, sydd naill ai'n bodoli eisoes neu sy'n fesur pwrpasol, yn ddymunol, ar y cyd â chymhwyso'n drwyadl y polisïau a geir yn adran 6.4 o PCC (fel y'u diwygiwyd gan y ddogfen sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig). 

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu dull gweithredu cyffredin o fesur a fydd budd net yn cael ei sicrhau ar safle (h.y. bydd y canlyniad yn y pen draw yn well na'r cyflwr i ddechrau). Bydd dull gweithredu o'r fath yn rhoi eglurder ynglŷn â'r hyn sydd ei angen a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau budd net i fioamrywiaeth a gwella cydnerthedd ecosystemau. Bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi ar y mater hwn a byddant yn gweithredu o fewn fframwaith adran 6.4 ac yn defnyddio barn arbenigol i sicrhau ansawdd y dull gweithredu. 

Atodiad 1: Sicrhau Budd Net i Fioamrywiaeth – Egwyddorion Drafft i Ymgeiswyr

Datblygwyd yr egwyddorion hyn gan grŵp gorchwyl a gorffen o dan Fforwm Cynllunio a bioamrywiaeth Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru yn 2019-20. Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau cynllunio lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y ganolfan gofnodion leol, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a Llywodraeth Cymru. Y bwriad oedd y byddai'r egwyddorion hyn yn cael eu bwydo i mewn i Bolisi Cynllunio Cymru ar adeg briodol. Mae'r ymgynghoriad presennol ar newidiadau arfaethedig yn anelu at wneud hyn.

Nodiadau rhagarweiniol

  • Diffinnir budd net i fioamrywiaeth fel, ‘the concept that development should leave biodiversity and ecosystems in a better state than before, through securing long term, measurable and demonstrable benefit, primarily on site.’
  • O dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), mae'n rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.
  • Diffinnir bioamrywiaeth fel amrywiaeth (rhywogaethau a'u toreth) organeddau byw, boed ar lefel geneteg, rhywogaeth neu ecosystem. Yn benodol, o dan Adran 6(5)a, wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd, mae'n rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw i'r rhestrau bioamrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd o'r pwysigrwydd pennaf i Gymru a gyhoeddir o dan adran 7.
  • Mae'r Ddeddf nid yn unig yn ei gwneud yn ofynnol i fioamrywiaeth gael ei hystyried o ran rhywogaethau a chynefinoedd sy'n bresennol, ond hefyd ecosystemau ac, yn benodol, gydnerthedd yr ecosystemau hynny.
  • Mae'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn diffinio ecosystemau fel “a dynamic complex of plant, animal and micro-organisms and their non-living environment interacting as a functional unit”. Prif nodwedd ecosystemau yw eu bod yn systemau cwbl integredig â ‘priodweddau alldoddol’ sy'n deillio o ryngweithio rhwng yr elfennau byw a'r elfennau nad ydynt yn fyw sy'n rhan ohonynt.
  • Diffinnir cydnerthedd ecosystemau fel “gallu ecosystem i ddelio â tharfu, naill ai trwy eu gwrthsefyll, adfer ar eu holau, neu addasu iddynt, wrth gadw ei gallu i ddarparu gwasanaethau a buddion ecosystemau yn awr ac at y dyfodol ”.
  • Mae'r gwaith o gynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau yn cynnwys ystyried priodweddau canlynol ecosystemau fel y'u nodwyd o dan Fframwaith DECCA a'r camau gweithredu a gymerir yn eu cylch -
  •  
    • Amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt; nid yn unig yr agweddau biolegol ond hefyd yr agweddau daearegol a ffisegol.
    • Graddfa; po fwyaf yr ecosystem heb ddarnio, y mwyaf cydnerth y mae'n debygol o fod.
    • Cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad); mae angen i wasanaethau cefnogol sylfaenol ecosystemau fod mewn cyflwr iach er mwyn gweithredu'n effeithiol, a darparu nifer o wasanaethau ecosystem pwysig.
    • Cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt; mae'n hwyluso symudiadau o ran genynnau, rhywogaethau ac elfennau o ecosystemau megis dŵr dros dirweddau, gan alluogi ecosystemau i weithredu'n effeithiol ac addasu'n ofodol.
    • Gallu ecosystemau i addasu. Fel un o ganlyniadau'r uchod, mae gallu cyffredinol ecosystemau i addasu yn gofyn am ystyriaeth benodol o'r cylchoedd addasu y mae llawer o ecosystemau yn mynd drwyddynt. Y cwestiwn allweddol yma yw a fydd yr ecosystem dan sylw yn addasu ac yn newid i'r cyfeiriad a ddymunir o ystyried newidiadau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol yn y dyfodol a gofynion megis newid yn yr hinsawdd.

Pam mae cydnerthedd ecosystemau yn bwysig?

Mae cydnerthedd yn greiddiol i'r dull integredig newydd o ymdrin â'r amgylchedd, sy'n seiliedig ar y llif o ecosystemau, drwy wasanaethau a buddiannau ecosystemau, i lesiant. Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, yw'r ffordd y caiff amgylchedd Cymru ei reoli er mwyn sicrhau'r llif hwn, a chydnerthedd yw priodwedd ecosystemau sy'n ei gwneud yn bosibl i'r llif barhau yn wyneb effeithiau a newid.

Wrth gymhwyso egwyddorion budd net i fioamrywiaeth dylai'r canlyniadau fod fel a ganlyn:

  • Mae bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn cael eu cynnal a'u gwella,
  • Mae cynnydd mewn bioamrywiaeth ar safle yn cael ei sicrhau'n ychwanegol at yr hyn sydd ei angen i liniaru neu gydbwyso effaith negyddol, a
  • Mae datblygiadau yn gynaliadwy, yn ecolegol gydnerth, yn iach ac yn cyflwyno nifer o fuddiannau er llesiant pobl leol.

Mae'n rhaid i'r broses fesul cam (PCC paragraff 6.4.21) a'r egwyddorion hyn gael eu cymhwyso ar gamau cynharaf unrhyw ddatblygiad a gynllunnir, gyda'r nod o gynnal a gwella cymaint o fioamrywiaeth â phosibl, a symud i ffwrdd oddi wrth y dybiaeth y gellir cydbwyso difrod, naill ai ar safle neu oddi ar safle. Bydd angen rhoi tystiolaeth sy'n dangos sut mae'r dull fesul cam wedi cael ei ddilyn ynghyd â'r egwyddorion hyn.

Drwy gymhwyso'r egwyddorion hyn a'r broses fesul cam, mae'n rhaid mai'r sicrhau gwelliant yw'r nod pennaf.

Egwyddorion cyn gwneud cais - asesu a chynllunio

1: Dylai arolygon cynnar a gwaith ymchwil bennu cyflwr sylfaenol bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ar safle ac yn y cyd-destun lleol, gan ystyried y cyfraniad y mae'r safle yn ei wneud at rwydweithiau ecolegol cydnerth drwy ei amrywiaeth, ei raddfa, a'i gysylltiadau a'i gyflwr a gwasanaethau ecosystemau a ddarperir (gweler PCC para 6.4.9). Ar gyfer ceisiadau ar raddfa deiliaid tai yn benodol, dylid rhoi cyngor i ddarpar ymgeiswyr sy'n amlinellu disgwyliadau o ran yr wybodaeth y bydd angen ei chyflwyno ar y cyd â chais. Mae'n bwysig bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gymesur sy'n ymwneud ag arwyddocâd unrhyw effaith bosibl y gallai mesurau cadarnhaol ei chael neu unrhyw gyfraniad posibl y gallant ei wneud i fioamrywiaeth ac ecosystemau lleol. Fodd bynnag, ym mhob achos, bydd yn hanfodol deall cyd-destun ecolegol datblygiad.

Dylid cyfeirio at yr Asesiadau Seilwaith Gwyrdd lleol a'r Datganiadau Ardal er mwyn rhoi'r cyd-destun gofodol pwysig hwn, yn ogystal â helpu i nodi mesurau rhagweithiol a chyfleoedd i wella er mwyn helpu i integreiddio'r cynnig â'i leoliad yn llwyddiannus.

2: Bydd unrhyw waith clirio safle cyn datblygu (gan gynnwys ymchwiliadau tarfol i'r safle) yn arwain at wrthod rhoi caniatâd cynllunio NEU, lle mae safle wedi cael ei glirio, tybir bod cyflwr y safle fel yr oedd cyn i unrhyw ymchwiliadau i'r safle neu waith clirio ddigwydd. Mae'n rhaid i fudd net i fioamrywiaeth gael ei sicrhau o'r adeg honno.

3. Mae'n rhaid i bob datblygiad anelu at sicrhau budd net i fioamrywiaeth (a chydnerthedd ecosystemau) o'r cyflwr sylfaenol (yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig).Hyd yn oed os yw gwerth bioamrywiaeth wedi cael ei gynnal, dylai fod proses ragweithiol o hyd i chwilio am welliannau a'u sicrhau wrth ddylunio a gweithredu'r datblygiad.

4: Mae'n rhaid bod mod sicrhau'r budd net i fioamrywiaeth o fewn cyn lleied o amser â phosibl, ac mae'n rhaid sicrhau mesurau rheoli, yn yr hirdymor.

Defnyddio'r dull fesul cam - osgoi

5: Yn gyntaf, dylid anelu at gynnal bioamrywiaeth drwy osgoi colli neu ddifrodi bioamrywiaeth yn ei hystyr ehangaf (h.y. amrywiaeth rhywogaethau a'u toreth). Dylid ystyried a oes gwir angen y datblygiad, a ellid ei leoli yn rhywle arall, neu ei osod neu ei ddylunio'n wahanol, neu a ellid ymgorffori ateb sy'n seiliedig ar natur neu ei ddisodli'n rhannol gan ateb sy'n seiliedig ar natur.[1] 

6: Mae'n rhaid i safleoedd sy'n cynnwys SoDdGAau, Safleoedd o Bwys i Gadwraeth Natur a rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir gael eu diogelu, yn enwedig y rhai anadnewyddadwy[2]. (Cyfeirier at PCC 6.4.11 – 6.4.20 ar gyfer yr holl ganllawiau ar safleoedd dynodedig.)

Lleihau

7: Pan fydd pob opsiwn ar gyfer osgoi colli neu ddifrodi bioamrywiaeth wedi cael ei hystyried, dylai'r datblygiad geisio lleihau'r effaith gychwynnol ar fioamrywiaeth ac ecosystemau ar y safle drwy'r canlynol:

  • cynnal yr ardal fwyaf posibl o'r cynefin presennol sy'n cefnogi bioamrywiaeth ac ecosystemau sy'n weithredol, yn enwedig cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth o dan Adran 7, drwy leihau maint y datblygiad i'r eithaf a'i leoli'n briodol ar y safle,
  • cadw nodweddion presennol (e.e. coed, gwrychoedd, pyllau dŵr) a
  • defnyddio atebion arloesol i osgoi difrod a chynnal nodweddion presennol bioamrywiaeth ac ecosystemau.

Lliniaru

8: Os gallai amrywiaeth ac ecosystemau gael eu difrodi o hyd, ar ôl rhoi mesurau ar waith i leihau effaith, dylai'r datblygiad arfaethedig anelu at liniaru'r difrod hwnnw – ‘tebyg am debyg’ yn achos cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth ac ym mhob achos dylid ceisio meithrin cydnerthedd ecosystemau ar y safle, ac yn yr ardal ehangach lle y bo modd. Ar ôl lliniaru unrhyw golled, dylid darparu cynllun o welliannau er mwyn sicrhau budd net i fioamrywiaeth. Gallai'r rhain gynnwys creu cynefin ar y safle a/neu gallent fod yn rhan o'r datblygiad ei hun drwy ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur fioamrywiol megis systemau draenio cynaliadwy, toeon gwyrdd, ehangu coetiroedd, a chreu gwlyptiroedd.

Byddai gwella cydnerthedd ecosystemau drwy briodweddau DECCA, yn enwedig gwella cysylltiadau â'r ardal o amgylch y safle yn gyfraniad allweddol at fesurau lliniaru a gwella ar y safle.

Cydbwyso – Pan fetho popeth arall

9: Pan fydd pob opsiwn arall wedi cael ei ystyried, a lle na fydd addasiadau, safleoedd amgen, amodau na rhwymedigaethau yn ddigonol i sicrhau canlyniadau bioamrywiaeth, mae'n rhaid ceisio mesurau cydbwyso oddi ar y safle ar gyfer difrod na ellir ei osgoi.

10: Dylai mesurau cydbwyso gael eu llywio gan dystiolaeth sy'n seiliedig ar le a'r blaenoriaethau fel y'u nodwyd yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, y Datganiad Ardal a/neu'r Asesiad o'r Seilwaith Gwyrdd ac mae'n rhaid eu sicrhau ymhell cyn bod bioamrywiaeth yn cael ei cholli ar y safle.

11: Gallai mesurau neu adnoddau cydbwyso priodol gynnwys:

  • gwelliannau bioamrywiaeth sy'n dangos cydberthynas ecolegol â'r safle,
  • trawsleoli ac adfer nodweddion safle, cynefinoedd a rhywogaethau, a/neu
  • gyfrannu at gynllun ardoll cymeradwy neu gronfa gynefinoedd.

Dylai mesurau cydbwyso fod o leiaf ‘tebyg am debyg’ o ran math, ansawdd a graddfa a bod yn briodol i'r cyd-destun – a chael eu llywio gan y dogfennau y cyfeirir atynt uchod a'r cyngor ecolegol priodol gan Cyfoeth Naturiol Cymru a/neu ecolegydd cymwys sydd wedi'i gofrestru â CIEEM.

[1] Cyfeiriadau at ganllawiau pellach e.e. Adeiladu gyda natur /nodyn cyfarwyddyd ar Welliannau

[2] Cynefin na ellir ei ail-greu yn rhywle arall o fewn terfyn amser rhesymol unwaith y bydd wedi'i golli e.e. coetiroedd hynafol, mawndir gweithredu a chalchbalmant.