Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Penodi cyflenwr cyfnod darganfod eGaffael

Mae'r cyflenwr PUBLIC wedi'i benodi i ddatblygu cyfnod darganfod ar gyfer eGaffael.

Yn ddiweddar, mynychodd y cyflenwr y grŵp defnyddwyr eGaffael i gyflwyno'r cyfnod darganfod, a bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Os hoffech gyfrannu at y cyfnod darganfod drwy rannu eich barn a'ch profiadau gydag offer eGaffael, anfonwch e-bost: ICTProcurement@llyw.cymru.

Dogfen Gaffael Sengl (SPD) - diweddariad

Mae'r datblygiad sy'n caniatáu i brynwyr drosglwyddo SPDs a grëwyd o fewn GwerthwchiGymru i eDendroCymru wedi'i gwblhau.

Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru canllawiau i ddefnyddwyr a byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau arddangos ar sut y bydd y broses newydd yn gweithio dros y misoedd nesaf. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu un o'r sesiynau arddangos hyn, anfonwch e-bost: ICTProcurement@llyw.cymru  

Datgomisiynu'r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr SQuID

Rydym yn gweithio tuag at ddileu SQuID o GwerthwchiGymru ar 31 Rhagfyr 2021.

Cadw dogfennau

Atgoffir holl ddefnyddwyr eDendroCymru a GwerthwchiGymru y dylid tynnu dogfennau o'r system a'u storio yn system storio dogfennau eich sefydliad eich hun, yn unol â'ch polisi cadw dogfennau. Ni fwriedir i'n systemau eGaffael fod yn systemau storio dogfennau, ac mae angen i unrhyw ddata yr hoffech ei gadw gael ei echdynnu a'i storio'n briodol ar gyfer pob caffaeliad.