Neidio i'r prif gynnwy

Ni all Cymru gyflawni ei photensial economaidd hyd nes y bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn cyflawni eu potensial hwy – y Gweinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad cyn lansio Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru’r wythnos nesaf, dywedodd y Gweinidog wrth y cynadleddwyr am hanes cymydog ifanc, galluog yn Nhrelái a gafodd rhywun yn dweud wrtho nad oedd arholiadau ar gyfer pobl fel ef. A hithau bellach yn Weinidog Dysgu Gydol Oes mae’n benderfynol o sicrhau bob pobl yn cyflawni eu potensial er gwaethaf eu cefndir.

Dywedodd:

“Fe wnes i benderfynu mynd i fyd gwleidyddiaeth am i mi gael fy magu yn Nhrelái, ardal lle’r oedd ar y pryd gryn dipyn o amddifadedd. Mae hynny’n dal i fod yn wir am heddiw. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yno, nid oedd neb ar y stad, ar wahân i fy rhieni, wedi bod mewn prifysgol. Eto i gyd, roedd y bobl oedd yn byw ar yr un stad â ni, fel y maen nhw heddiw, mor glyfar ag unrhyw un sy’n eistedd yn yr ystafell yma heddiw. Unioni’r anghyfiawnder hwnnw oedd y sail i’m penderfyniad i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

“Dyna pam yr oeddwn i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i ymuno â’r llywodraeth bedwar mis yn ôl i ganolbwyntio ar sgiliau, cyflogadwyedd, addysg bellach a’r Gymraeg. Mae’n rhoi cyfle i mi helpu i greu’r amodau i ryddhau’r potensial hwnnw mewn unigolion ac i wella ffyniant economaidd y wlad.

“Yr wythnos nesa, mi fydda i’n lansio ein Cynllun Cyflogadwyedd newydd. Bydd yn cydnabod bod mwy i gyflogadwyedd na swyddi a sgiliau yn unig. Mae hefyd yn golygu cael pob agwedd ar bolisi’r llywodraeth; addysg, iechyd, tai a chymunedau; i weithio gyda’i gilydd i helpu pobl i gael swyddi sy’n gynaliadwy. Rydyn ni am weld Cymru’n datblygu’n genedl lle mae tegwch yn y gweithle, lle gall pawb gael gwell swydd yn nes at eu cartref, datblygu eu sgiliau a chael gwaith o safon ac sy’n gwella eu bywydau heb gael eu hecsbloetio na phrofi tlodi.

“Mae’r byd a’r byd gwaith yn newid yn gyflym ac rydw i am sicrhau  bod ein system addysg a hyfforddiant yn ymateb. Bydd y Cynllun Cyflogadwyedd hefyd yn adlewyrchu’r her i ni o weld y byd awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a digideiddio yn mynd o nerth i nerth. Rhaid i ni ddiogelu dyfodol ein system addysg a chryfhau ein dysgwyr a fydd o bosib yn cael cymaint â deuddeg swydd wahanol yn ystod eu hoes.

“Mae’r heriau yn rhai mawr ond mae addysg yn rhoi’r cyfle i ni ymateb i’r heriau hynny. Rhaid i ni sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael i bawb.”