Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) ei gyflwyno yn Senedd y DU er mwyn diogelu gweithwyr brys ymhellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) ei gyflwyno yn Senedd y DU er mwyn diogelu gweithwyr brys ymhellach. Bydd y drafft presennol yn berthnasol i Gymru a Lloegr. 

Bydd y Bil yn cryfhau'r gyfraith bresennol gan y bydd ymosodiadau ar weithwyr brys wrth gyflawni eu dyletswyddau bellach yn cael eu hystyried yn ymosodiadau sy’n fwy difrifol, a bydd y gosb uchaf am hyn yn cynyddu o chwe mis i 12 mis. 

Wrth siarad cyn y drafodaeth yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'n syfrdanol clywed am ymosodiadau corfforol a llafar ar weithwyr brys wrth iddyn nhw fynd ati i wneud eu gwaith, sef ceisio ein cadw ni i gyd yn ddiogel ac yn iach. Mae'r Bil yma yn un ffordd o fynd i’r afael a’r broblem yma.

"Rydym eisiau gweithwyr brys yng Nghymru gael yr un diogelwch â'r rheini yn Lloegr gan ddilyn yr un amserlen. Rydym yn hapus i gefnogi Bil Chris Bryant AS a chadarnhau na fydd Cymru yn goddef ymosodiadau ar ein gweithwyr brys." 

Bydd y Bil hefyd yn ehangu pwerau'r heddlu i gymryd samplau gwaed â chaniatâd, a samplau nad ydynt o natur bersonol heb ganiatâd, gan unigolion sy'n ymosod ar weithwyr brys yn yr achosion hynny lle bo gan Arolygwyr ddigon o reswm i gredu bod gweithiwr brys wedi wynebu risg o glefyd heintus. 

Bydd angen i Aelodau'r Cynulliad gytuno i osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd i gefnogi'r Bil.