Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl o bob cwr o’r byd, ac ni fydd hyn yn newid yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE yr wythnos ddiwethaf, dyna’r neges gan Brif Weinidog Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod ag aelodau o Gymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yn ogystal â phobl ifanc a theuluoedd sydd wedi derbyn cymorth gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn Abertawe.  

Meddai Prif Weinidog Cymru:

“Rwyf wedi fy nychryn ac yn siomedig iawn o’r cynnydd mewn tensiwn hiliol, a’r difrïo hiliol tuag at bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ystod yr wythnos ddiwethaf.  Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fath o hiliaeth yma yng Nghymru, a byddwn yn mynd i’r afael â’r ymddygiad annerbyniol hwn ar unwaith.  

“Er fy mod yn teimlo bod y difrïo hiliol y mae rhai pobl yn gorfod ei ddioddef yn warthus, rwyf hefyd wedi fy nghalonogi gan gefnogaeth a gwerthfawrogiad y cyhoedd o gymunedau ethnig sy’n byw yng Nghymru.  Roeddwn yn hynod falch o glywed am y nodyn o ddiolch a bostiwyd yn ddi-enw ar ddrws Cymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli.  Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pob cymuned yn ymddwyn yn yr un modd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £500,000 i sefydlu Canolfan Cenedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb Cymru, ac wedi ariannu amrywiol ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r broblem.  Mae cymorth o’r fath wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n hysbysu rhywun o droseddau casineb yng Nghymru, tra bo ffigurau a gyhoeddwyd y llynedd wedi awgrymu bod troseddau casineb wedi gostwng 28% dros y saith mlynedd diwethaf.  

Meddai Carwyn Jones:

“Rydym wedi cydweithio â phartneriaid i greu cysylltiadau cymunedol cryf yng Nghymru, ac nid wyf am weld y gwaith da hwn yn cael ei chwalu.  Ni ddylai neb ddioddef unrhyw fath o elyniaeth neu ragfarn, ac rwy’n annog dioddefwyr i gysylltu â’r heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i’w hysbysu o unrhyw ddigwyddiad.    

“Yn y cyfamser, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i uno pobl Cymru unwaith eto.  Mae ymfudwyr wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd Cymru, ac yn parhau i wneud hynny, ac rwyf am roi sicrwydd i wladolion tramor sy’n byw yma ein bod yn parhau i’w gwerthfawrogi fel aelodau o’n cymdeithas.  Dyma fy neges yn glir – rydym yn dal i’ch croesawu chi yma yng Nghymru.”  


Meddai Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST):

“Rydym yn croesawu neges y Prif Weinidog sy’n rhoi sicrwydd i’r cymunedau amrywiol sy’n byw yn Aberatwe. Dyma’r amser i ni i gyd, fel unigolion, cymunedau ac arweinwyr gwleidyddol i ymdrechu mwy, ac mae angen inni hyrwyddo goddefgarwch a synnwyr er mwyn boddi unrhyw anoddefgarwch a rhagfarn.  Mae angen inni hefyd sicrhau fod gan bawb y cyfle i ddysgu y ffeithiau am ymfudo ac amrywiaeth, ac i werthfawrogi y cyfraniad y mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn ei wneud i Gymru, yn hytrach na chredu’r storïau a’r celwyddau sydd yn anffodus yn bwydo hiliaeth, anoddefgarwch a chasineb.”