Neidio i'r prif gynnwy

Bydd bwrsariaeth newydd £4,000 ar gael i bobl dros 60 oed i astudio ar gyfer gradd Meistr yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Bwrsariaeth gwerth £4,000 i bobl 60 oed a throsodd sy'n fyfyrwyr Gradd Meistr yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20.
  • Bwrsari gwerth £2,000 i fyfyrwyr o bob oed i ddilyn Cwrs Meistr mewn pwnc ‘STEMM’.
  • Bwrsari gwerth £1,000 i ddilyn Cwrs Meistr drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Bydd y bwrsarïau ar gael yn yr hydref.

Cyhoeddodd  Llywodraeth Cymru bod cymhellion newydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru allu gwneud eu gradd Meistr yng Nghymru, fel rhan o nod i sicrhau bod addysg uwch yn opsiwn i fwy o bobl, ac i geisio denu graddedigion i aros yng Nghymru neu ddychwelyd i Gymru. 

Bydd bwrsariaeth newydd £4,000 ar gael i bobl dros 60 oed i astudio ar gyfer gradd Meistr yng Nghymru yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20. Nod y grant yw darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr dros 60 oed, nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael yr un cymorth ariannol â myfyrwyr iau oherwydd cyfyngiadau Trysorlys ei Mawrhydi. 

Bydd bwrsariaeth newydd gwerth £2,000 ar gael i raddedigion o bob oed i astudio yng Nghymru ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, cyfeirir at y pynciau hyn yn aml fel pynciau 'STEMM'. 

Bydd bwrsariaeth gwerth £1,000 ar gael  hefyd i ddilyn Gradd Meistr drwy'r Gymraeg. Mae'r fwrsariaeth yn allweddol er mwyn parhau i ddatblygu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg, sydd yn ei dro yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Roedd sicrhau hawl i ddysgu gydol oes yng Nghymru yn rhan allweddol o'r Cytundeb Blaengar rhyngof i a'r Prif Weinidog. Mae hyn yn dod â manteision i unigolion drwy gydol eu gyrfa neu eu datblygiad personol, yn ogystal â bod o fudd i'n heconomi a'r gymdeithas yn ehangach. 

“Dylai'r sector ôl-raddedig fod yn opsiwn i'r holl raddedigion yng Nghymru, waeth beth fo'ch oedran. Mae David Attenborough yn dal wrthi ac yn gwneud y rhaglenni teledu poblogaidd a'r rhai gorau, ac yntau yn ei nawdegau. Nid yw oed yn rheswm dros beidio â datblygu gyrfa ar ôl i chi gyrraedd 60 oed! 

“Hefyd, rydym am ddenu graddedigion talentog i aros yng Nghymru, neu ddychwelyd yma i astudio, yn benodol felly, i astudio pynciau STEMM, lle rydym yn gwybod bod y galw am ôl-raddedigion medrus mewn diwydiant yn uchel iawn.

“Mae'r bwrsari ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cwrs ôl-radd drwy'r Gymraeg yn bwysig hefyd, er mwyn parhau i ddatblygu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg, sydd yn ei dro yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.” 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid o £1.3m i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) er mwyn iddynt weinyddu'r bwrsarïau drwy ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gymhwystra a sut i wneud cais drwy gysylltu â phrifysgol o'ch dewis chi.