Neidio i'r prif gynnwy

Mae nifer y bobl sy'n manteisio ar drafnidiaeth am ddim TrawsCymru ar y penwythnosau yn cynyddu - ar rai llwybrau mae cynnydd o dros 100%.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Prif Weinidog gyllid ar gyfer teithio am ddim ar y penwythnosau ar rwydwaith bysiau Traws Cymru ym mis Mawrth 2017. Mae'r data sy'n cynnwys Gorffennaf 2017 i Mawrth 2018 yn dangos bod y cynllun wedi creu 133,391 yn ychwanegol o deithwyr ar benwythnosau ar draws rhwydwaith TrawsCymru neu gynnydd o 65.49% o gymharu â'r cyfnod cyfatebol yn 2016-17. 

TrawsCymru yw rhwydwaith bws pellter maith Cymru sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys nifer o lwybrau, a bydd y diweddaraf yn cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin a Port Talbot cyn parhau i Gaerdydd. 

Cyn diwedd y llynedd, cyhoeddodd Ken Skates gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflwyno pecyn o welliannau i'r cysylltiadau bws a choets TrawsCymru sy'n cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd. 

Yn dilyn adborth gan deithwyr, mae'r gwasanaeth wedi cyflwyno coets fodern sydd â llawr uchel addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar y gwasanaeth pellter hir dyddiol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, fydd yn cynnig taith fwy cyfforddus i deithwyr pellter hwy, wedi'i ategu gan lwybr byrrach fydd yn cynnig amseroedd teithio cyflymach uniongyrchol o un lle i'r llall. 

Bydd y gwasanaeth yn cynnig coets pellter maith mwy cyfforddus gyda seddau steil coets, toiled a WiFi am ddim.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Mae treialu y teithio am ddim ar benwythnosau ar rwydwaith bysiau Traws Cymru yn bendant wedi dangos rhai canlyniadau cynnar rhagorol.  Mae cynnydd yn nifer y teithwyr ac mae mwy o bobl yn defnyddio bysiau ar y rhwydwaith ledled Cymru.

"Mae hyn yn wych gan ei fod yn annog mwy o bobl i'r arferiad o ddefnyddio bysiau, gan helpu inni gefnogi llwybrau eraill ledled Cymru.

"Pan fyddwch yn edrych, er enghraifft, ar fanteision y buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud i gryfhau'r gwasanaethau rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd, mae'r niferoedd yn dweud stori glir iawn - bod mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau a bod hynny'n dda i'r cymunedau a'r economïau ar hyd y llwybrau hynny.

"Rydym wedi gwrando ar deithwyr ac wedi cyflwyno coetsys ar y llwybr allweddol hwn, ac wedi llwyddo i leihau amseroedd teithio yn sylweddol. Yn ogystal â'r arhosiad ychwanegol ym Mhort Talbot, bydd y gwasanaeth hwn yn ychwanegu gwerth at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd eisoes yn hanfodol yn ôl ac ymlaen o gefn gwlad Cymru, gan roi mwy o ddewis i deithwyr ar y llwybr strategol allweddol hwn.

"Mae'n ymddangos bod ein gwelliannau wedi gwneud gwahaniaeth i'n teithwyr. Mae hyn yn llawer uwch na'r twf o 20% a ragamcanwyd o ran y ffigurau ar gyfer teithwyr ar wasanaethau TrawsCymru ar y penwythnos, a gafodd eu rhagweld  ar ddechrau'r treialu.

"Mae'r ffigurau hyn ledled Cymru yn galonogol ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld rhagor o welliannau yn y dyfodol."