Ystadegau, Dogfennu
Nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl: Ebrill i Fehefin 2026
Data ynglŷn â nifer y bobl a gadwyd o dan Adrannau 135 a 136 yng Nghymru yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd, man diogelwch a chanlyniad yr asesiad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu derbyn pobl i'r ysbyty ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol. Gellir gwneud derbyniadau gyda chydsyniad neu heb gydsyniad.
Mae'r ystadegau hyn yn ein helpu i ddeall:
- y defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ledled Cymru
- yr ymateb amlasiantaeth i ofal argyfwng iechyd meddwl
Prif bwyntiau
Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2026
- Cafwyd 22 achos o gadw pobl o dan Adran 135 a 549 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.
- Menywod oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gafodd eu cadw (53%).
- Roedd 95% o'r holl bobl a gafodd eu cadw yn 18 oed neu'n hŷn.
- Roedd 94% o'r bobl a gafodd eu cadw yn y grŵp ethnig gwyn.
- Aethpwyd â 61% o'r bobl a gafodd eu cadw i fan diogel mewn lleoliad iechyd fel man diogel cyntaf; cafodd y mwyafrif eu cludo mewn cerbyd heddlu.
- Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 44% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.
Manylion cyswllt
Ystadegau iechyd meddwl
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
