Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatáu i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, gyda neu heb eu cydsyniad, ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru a gwaith amlasiantaeth i ymateb i ofal mewn argyfwng iechyd meddwl.

Prif bwyntiau

Yn ystod y chwarter a daeth i ben ym Medi 2025

Cafwyd 26 achos o gadw pobl o dan Adran 135 ac 572 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.

Dynion oedd y gyfran uchaf o’r holl rai a gafodd eu cadw (50.2%). 

Roedd 95.2% o bob achos yn 18 oed neu'n hŷn.   

Roedd 94.6% o'r bobl a gadwyd yn perthyn i’r grŵp ethnig Gwyn. 

Lleoliad iechyd diogel oedd y man diogel cyntaf yr aethpwyd â 59.7% o'r bobl a gadwyd iddo, a cherbyd heddlu oedd y dull cludo mwyaf tebygol.  

Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 43.5% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru 
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099