Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatáu i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, gyda neu heb eu cydsyniad, ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru a gwaith amlasiantaeth i ymateb i ofal mewn argyfwng iechyd meddwl.

Pwyntiau allweddol

Yn ystod y chwarter a daeth i ben ym Rhagfyr 2026

  • Cafwyd 28 achos o gadw pobl o dan Adran 135 ac 530 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.
  • Dynion oedd y gyfran uchaf o’r holl rai a gafodd eu cadw (52.7%). 
  • Roedd 96.4% o bob achos yn 18 oed neu'n hŷn.   
  • Roedd 92.8% o'r bobl a gadwyd yn perthyn i’r grŵp ethnig Gwyn. 
  • Lleoliad iechyd diogel oedd y man diogel cyntaf yr aethpwyd â 65.4% o'r bobl a gadwyd iddo, a cherbyd heddlu oedd y dull cludo mwyaf tebygol. 
  • Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 40.7% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru 
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099