Nifer y bobl a gafodd eu cadw o dan adrannau 135 a 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl: Gorffennaf i Fedi 2026
Data ynglŷn â nifer y bobl a gafodd eu cadw o dan adrannau 135 a 136 yng Nghymru yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd, man diogel a chanlyniad yr asesiad rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu derbyn pobl i’r ysbyty ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol. Gellir gwneud derbyniadau gyda chydsyniad neu heb gydsyniad.
Mae adran 135 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn galluogi ynad i gyhoeddi gwarant sy'n awdurdodi'r heddlu i fynd i mewn i fangre breifat a chymryd person i le diogel er mwyn iddynt gael eu hasesu, os oes pryder eu bod yn dioddef o anhwylder meddwl ac angen gofal neu reolaeth.
Mae adran 136 yn galluogi'r heddlu i gymryd person o le cyhoeddus i le diogel os yw'n ymddangos eu bod yn dioddef o anhwylder meddwl ac angen gofal neu reolaeth ar unwaith.
Mae’r ystadegau hyn yn ein helpu i ddeall:
- y defnydd o adrannau 135 a 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl ledled Cymru
- yr ymateb amlasiantaethol i ofal mewn achosion o argyfwng iechyd meddwl.
Y prif bwyntiau
Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ym mis Medi 2026
- Cafwyd 30 o achosion o gadw pobl o dan adran 135, a 630 o achosion o gadw pobl o dan adran 136.
- Roedd 55% o’r rhai a gafodd eu cadw yn fenywod.
- Roedd 94% o’r rhai a gafodd eu cadw yn 18 oed neu’n hŷn.
- Roedd 94% o’r rhai a gafodd eu cadw yn y grŵp ethnig Gwyn.
- Aethpwyd â 63% o’r rhai a gafodd eu cadw i fan diogel mewn lleoliad iechyd fel man diogel cyntaf; cafodd y mwyafrif eu cludo mewn cerbyd heddlu.
- Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 47% o’r rhai a gafodd eu cadw eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.
Manylion cyswllt
Enw’r tîm: Ystadegau Iechyd Meddwl
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Y cyfryngau: 0300 025 8099
