Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 1.45 miliwn o swyddi yng Nghymru yn 2018, yr uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y swyddi wedi cynyddu'n gyflymach yng Nghymru na'r  DU yn gyffredinol rhwng 2017 a 2018.

Rhwng 2017 a 2018, bu cynnydd o 28,000 yng nghyfanswm cyflogaeth yn y gweithle yng Nghymru oedd yn golygu cynnydd o 2%. Ar gyfer y DU yn gyffredinol, ar gyfer yr un cyfnod, gwelwyd cynnydd o 0.7%.

Bu cynnydd o 15.9% yn nifer y swyddi yng Nghymru rhwng 2001 a 2018, sy'n debyg i'r cynnydd ledled y DU.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed dros nifer o flynyddoedd i greu twf a chynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith ledled Cymru.

Mae'r ffigurau ar gyfer 2018 yn bositif gyda nifer y swyddi ar ei uchaf erioed. Mae hefyd yn newyddion da mai'r diwydiant oedd â'r ganran uchaf o newid yng nghyfanswm y swyddi rhwng 2017 a 2018 yng Nghymru oedd y diwydiant adeiladu, ble y gwelwyd cynnydd o 11.9%.

Roedd y twf mewn swyddi yng Nghymru hefyd yn gryfach nag ar gyfer y DU rhwng 2001 a 2018 ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota a gweithgareddau cyllid a busnes.

Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn allweddol i ragolygon economaidd Cymru yn y dyfodol, ac mae'n amlwg bod angen inni gefnogi pob rhan o'n heconomi er mwyn gwella sgiliau ac annog arloesi.

Does dim amheuaeth ein bod yn byw mewn cyfnod economaidd anodd ac ansicr, oherwydd i Lywodraeth Prydain ddelio gyda Brexit mewn ffordd mor flêr, ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i greu economi lewyrchus yng Nghymru, yr hyn y mae pawb am ei weld.