Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Hydref 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Mae datganiad ystadegau Defra nawr yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

- Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2018, cofnodwyd 756 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
- Dyma ostyngiad o 3% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 781 o achosion.
- Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.
Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

- Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2018, cafodd 10,307 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
- Dyma gynnydd o 1% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 10,185 o wartheg eu lladd.
- Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
- Roedd nifer yr anifeiliaid a laddwyd yn Hydref 2018 yn uwch nag unrhyw un mis arall ers 2008. Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Na ddeallwyd y rhesymau am y brig ym mis Hydref yn llawn ar hyn o bryd. Mae’n bosib bod y brig oherwydd i'r profion TB a gynhelir y rhan fwyaf ohonynt yn ystod misoedd y gaeaf, pan gartrefir anifeiliaid. Gyda mwy o brofion, disgwylir y byddant yn dod o hyd i fwy o adweithyddion a bydd mwy o anifeiliaid yn cael eu lladd o ganlyniad. Ymchwilir y brig hwn ymhellach pryd mae fwy o ddata wedi'i gyhoeddi.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
