Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar gyfer Tachwedd 2018.

Mae Datganiad Ystadegau Defra yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 753 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Tachwedd 2018, sy’n ostyngiad o 6% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2018, cofnodwyd 753 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
  • Dyma ostyngiad o 6% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 798 o achosion.
  • Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 10,840 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Tachwedd 2018, sy’n gynnydd o 5% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2018, cafodd 10,840 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
  • Dyma gynnydd o 5% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 10,326 o wartheg eu lladd.
  • Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
  • Roedd nifer yr anifeiliaid a laddwyd yn Hydref 2018 yn uwch (1,499) nag unrhyw un mis arall ers dechrau’r cofnodion. Ym mis Tachwedd 2018, roedd hyn wedi gostwng i 1,418 anifeiliaid a laddwyd; Fodd bynnag yr oedd yr ail fis uchaf. Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i nodi a yw'r duedd yn newid i fyny. Mae’n bosib bod y brig oherwydd i'r profion TB a gynhelir y rhan fwyaf ohonynt yn ystod misoedd y gaeaf, pan gartrefir anifeiliaid. Gyda mwy o brofion, disgwylir y byddant yn dod o hyd i fwy o adweithyddion a bydd mwy o anifeiliaid yn cael eu lladd o ganlyniad. Ymchwilir y brig hwn ymhellach pryd mae fwy o ddata wedi'i gyhoeddi.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.