Neidio i'r prif gynnwy

Nod Strategaeth Bwyd Gymunedol newydd yw cryfhau systemau bwyd lleol, sicrhau bod mwy o bobl yn bwyta'n iach, a chreu cymunedau mwy cynaliadwy ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r strategaeth, sy'n ymrwymiad allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar gysylltu cynhyrchwyr o Gymru â defnyddwyr, cefnogi prosiectau bwyd a arweinir gan y gymuned, a sicrhau bod bwyd iachach yn hygyrch i bawb.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae'r tir yng Nghymru, gyda'i harddwch a'i godidogrwydd, yn dod â llawer o gyfleoedd a dyna pam mae ein cynnyrch ymhlith y gorau yn y byd.

Mae'r hyn rydyn ni'n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd a'n diwylliant, ac mae o fudd i'n cymunedau. Mae'r strategaeth hon yn cael ei llywio gan y lleisiau a'r cymunedau lleol ar draws ein tir a'n moroedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo dros £2 filiwn yn 2025-26, gyda chyllid wedi'i sicrhau hyd at fis Mawrth 2028, i gefnogi mentrau bwyd lleol.

Ers 2022, mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi ehangu i gynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r partneriaethau hyn yn cydlynu systemau bwyd lleol ac yn mynd i'r afael â thlodi bwyd, gwella iechyd y cyhoedd, a chefnogi twf gwyrdd ac addysg.

Nod y strategaeth yw cynyddu gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd a chyflenwyr Cymru o leiaf 50% erbyn 2030, gan greu cyfleoedd newydd yn y farchnad i gynhyrchwyr lleol.

Un o'r sefydliadau sydd wedi bod yn gweithio i gefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau bwyd lleol yw Synnwyr Bwyd Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 2018 i ysgogi dull traws-sector ar gyfer y system fwyd yng Nghymru drwy weithio gyda chymunedau, sefydliadau a llunwyr polisi.

Wrth sôn am gyhoeddi'r strategaeth, dywedodd Katie Palmer, Pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru:

Ein gweledigaeth fel sefydliad yw helpu i greu system fwyd sy'n dda i bobl ac i'r blaned, ac rydyn ni'n croesawu cyhoeddi Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru.

Mae gwaith gwych eisoes yn mynd rhagddo o fewn gwahanol sefydliadau ledled y wlad, ac rydyn ni'n gweld hyn yn gyfle gwych i adeiladu ar hyn drwy ddull mwy cydgysylltiedig a strwythuredig.

Yn y pen draw, bydd hyn yn gyfle i randdeiliaid weithio gyda'i gilydd i gryfhau systemau bwyd lleol ac i sicrhau'r amrywiaeth a'r gwydnwch sydd eu hangen yn fawr ar ein system fwyd mewn ffordd sy'n cefnogi lles diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru.

Gan adeiladu ar dros £26 miliwn a fuddsoddwyd ers 2019, mae'r strategaeth yn integreiddio â'r Cynllun Pwysau Iach: Cymru Iach a Strategaeth Tlodi Plant 2024 i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fwyd iach.

Mae'r strategaeth yn cefnogi garddwriaeth ar raddfa fach drwy grantiau, hyfforddiant a diweddariadau polisi cynllunio i alluogi mentrau tyfu cymunedol.

Er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol, bydd Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd yn cael ei sefydlu.

Mae'r strategaeth wedi'i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r strategaeth Cymru Can, sy'n cefnogi amcanion y llywodraeth ar gyfer llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.