Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y prosiect ymchwil hwn ei gomisiynu i archwilio a yw'n ymarferol i gynnal arolwg Llais y Dysgwr Cymru mewn dosbarthiadau chwech ysgolion.

Cafodd Ipsos MORI ei gomisiynu i brofi pa mor dda y byddai'r cwestiynau, y prosesau, a'r dull o adrodd yn gweithio yng nghyd-destun dosbarthiadau chwech ysgolion. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu sut y cafodd y rhaglen beilot ei chynnal, ac yn cynnig argymhellion ar gyfer cyflwyno arolwg Llais y Dysgwr Cymru ymhlith dosbarthiadau chwech ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol.

O ran y posibilrwydd o gyflwyno'r arolwg yn y dyfodol, mae'r adroddiad yn argymell:

  • Sicrhau cymorth cyfryngwyr ar lefel ranbarthol sydd â chysylltiad lled-reolaidd â'r ysgolion, er mwyn annog mwy ohonynt i gymryd rhan.
  • Byddai mwy o'r ysgolion yn cymryd rhan os oeddent yn gwybod y byddai'r canfyddiadau'n cael eu defnyddio gan Estyn, a bod ymatebion pob ysgol i gwestiynau allweddol yn cael eu cyhoeddi – sy’n wir am brif arolwg Llais y Dysgwr Cymru.
  • Dylai sampl gynrychioladol o ddysgwyr ym mhob ysgol gymryd rhan yn yr arolwg i sicrhau bod y canfyddiadau'n cael eu hystyried yn rhai cynrychioladol. Mae dwy ffordd o sicrhau ymateb cynrychioladol: (i) Rhowch gyfrifoldeb cyfryngol i'r ysgolion yn eu hardaloedd lleol, a chaniatewch iddynt weld yr adroddiadau ar yr ymatebion. (ii) Cael proffil samplu dibynadwy o ddysgwyr ym mhob ysgol cyn dechrau'r gwaith maes. Dylai hyn gynnwys: cyfanswm y nifer o ddysgwyr dosbarth chwech ym mhob ysgol; nifer o ddysgwyr ym mhob blwyddyn ysgol; dysgwyr o'r naill rhyw a'r llall; a dysgwyr sy'n cynrychioli pob cymhwyster.
  • Cyn cyflwyno darpar arolwg yn y dyfodol, mae angen ystyried sut mae cael hyd i set o ddata gan bob ysgol cyn cynnal y gwaith maes neu yn ystod y gwaith maes. Prif her yr arolwg oedd y ffaith na ellid cydweddu'r rhan fwyaf o'r dysgwyr a oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg â'u cofnodion ynglŷn â'u cyrsiau, ar y pryd nac yn dilyn yr arolwg.

Adroddiadau

Arolwg Llais y Dysgwr Cymru: rhaglen beilot dosbarthiadau chwech , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg Llais y Dysgwr Cymru: rhaglen beilot dosbarthiadau chwech: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 281 KB

PDF
281 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Siân Hughes

Rhif ffôn: 0300 062 2239

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.