Mae astudiaeth i asesu gwaith y Swyddogion Cymorth Cymunedol (CSOs) a mesur eu heffeithiau wrth wneud cymunedau yn fwy diogel a’u preswylwyr yn teimlo'n fwy diogel.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod cyffredinol yr astudiaeth oedd i amcangyfrifo effaith a sut mae hyn wedi cael ei gyflawni, ac i nodi gwersi a ddysgwyd.
Mae'r astudiaeth yn cyflwyno asesiad, cyn ac ar ôl CSOs wedi cael eu defnyddio, o effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol a gawsant mewn perthynas â'u hamcanion bwriedig, ac unrhyw effeithiau eraill a nodwyd yn ystod yr asesiad hwn. Yn fwy penodol, mae'r dadansoddiad yn ystyried:
- y polisi a gafodd ei gynllunio a'i fwriad
- sut mae'r polisi wedi cael ei weithredu yn strategol ac yn weithredol
- yr effeithiau y gellir eu priodoli iddo o ran canfyddiadau a phrofiadau o drosedd, anhrefn a diogelwch y cyhoedd.
