Nod y ddogfen dechnegol hon oedd tynnu sylw at y newidiadau mewn lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru ers arolwg 2008 Byw yng Nghymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru
Defnyddiwyd dull modelu rhyngweithiol ar ffurf excel er mwyn creu amcanestyniadau. Ystyriwyd newidiadau mewn lefelau incwm a mesurau ynghylch effeithlonrwydd ynni. Defnyddiwyd y canlyniadau ar gyfer dangos tlodi tanwydd ymhob cartref yng Nghymru, cartrefi a oedd yn agored i niwed yng Nghymru, tai cymdeithasol yng Nghymru a chymariaethau â lefelau cenedlaethol. Defnyddiwyd dull Adolygiad Hills o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru er mwyn tynnu sylw at effaith hyn ar yr amcanestyniadau ynghylch tlodi tanwydd yng Nghymru.
