Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil am lefel yr angen a chymorth presennol a ddarperir i ddisgyblion du a lleiafrifoedd ethnig sydd ag anghenion cymorth iaith Gymraeg.

Archwiliodd yr astudiaeth prosesau presennol o ran nodi disgyblion du a lleiafrifoedd ethnig sydd ag anghenion cymorth yn y Gymraeg fel eu hiaith ychwanegol, asesu eu lefelau cyrhaeddiad, a monitro eu cynnydd. Roedd hefyd yn edrych ar y ddarpariaeth a oedd ar gael ledled Cymru i gefnogi disgyblion yma wrth gaffael y Gymraeg a’u mynediad i'r cwricwlwm. Nododd yr astudiaeth enghreifftiau o arfer effeithiol a bylchau yn y gwasanaethau presennol a ddarperir i’r disgyblion.

Adroddiadau

Cymraeg fel iaith ychwanegol: ymchwil i lefel yr angen a’r cymorth presennol a roddir i ddisgyblion duon a lleiafrifoedd ethnig gydag anghenion cymorth yn y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.