Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ers penodi Mark yn bennaeth Ysgol Gynradd San Helen yn 2010, mae ei arweinyddiaeth wedi trawsnewid yr ysgol. Cyn hyn nid oedd digon o ddisgyblion yn yr ysgol ac roedd presenoldeb yn wael. Ers hynny, mae wedi gweithio gyda staff, rhieni a’r gymuned i wneud y ‘pethau bychain’. Mae wedi gweithio’n galed gyda’i dîm ac wedi creu ysgol fendigedig o gynhwysol ar gyfer yr amrywiaeth eang o gymunedau sy’n mynd yno ac ar gyfer y gyfran uchel o’i disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.