Sut i chwilio TermCymru
Dyma gynghorion ar chwilio TermCymru, a defnyddio'r dudalen ganlyniadau
Bydd TermCymru yn chwilio’r cofnodion Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Serch hynny, gan mai cronfa Saesneg>Cymraeg yw’r gronfa sy’n sail i TermCymru, sylwch nad oes manylion fel rhannau ymadrodd ac ati wedi’u cofnodi ar gyfer y termau Saesneg.
Dyma rai cynghorion i’ch helpu chi i chwilio yn fwy effeithiol.
Chwiliad o'r dudalen hafan
Gallwch wneud chwiliadau cyffredinol o dudalen hafan BydTermCymru. Os dymunwch, gallwch hidlo'r canlyniadau ymhellach ar y dudalen ganlyniadau.
Chwilio am derm Cymraeg ynte am derm Saesneg?
Gallwch chwilio am dermau Cymraeg neu Saesneg gan ddefnyddio’r blwch chwilio; nid oes raid ichi ddewis iaith cyn chwilio am derm.
Chwilio am ymadrodd penodol?
Does dim angen ichi roi dyfynodau dwbl am y geiriau hynny. Bydd unrhyw gofnodion cyfatebol llawn yn y gronfa yn ymddangos tua brig y rhestr.
Chwilio am derm neu deitl â sawl gair ynddo?
Gall fod yn gynt chwilio am ambell un o’r geiriau mwyaf anarferol yn hytrach na chwilio am bob gair, ee “housing fraud detection” yn hytrach na “prevention of social housing fraud (detection of fraud) (wales) regulations”
Eisiau cyfyngu’r canlyniadau i bwnc arbennig?
Dewiswch y pwnc hwnnw o’r gwymplen a chlicio ar ‘Chwilio’.
Eisiau gweld yr holl gofnodion a ychwanegwyd neu a addaswyd ers y diweddariad diwethaf?
Gwnewch chwiliad gwag, fydd yn dangos pob cofnod yn y gronfa, a threfnu'r canlyniadau yn ôl y dyddiad diweddaru diweddaraf.
Chwiliad mwy manwl
Ar dudalen chwilio benodol TermCymru, gallwch hefyd gynnal chwiliad gan ddefnyddio hidlyddion i gyfyngu eich canlyniadau i:
- unrhyw bwnc, neu gyfuniad o bynciau
- unrhyw statws, neu gyfuniad o statysau
- unrhyw ystod o ddyddiadau diweddar
Ar y dudalen ganlyniadau
Gallwch doglo rhwng clust â'r canlyniadau o blith termau Saesneg a chlust â'r canlyniadau o blith termau Cymraeg. Nodir nifer y termau y daethpwyd o hyd iddynt yn y naill iaith a'r llall, mewn cromfachau ar y glust dan sylw.
Byddwch yn gweld yr holl fanylion sy’n gysylltiedig â’r termau y deuir o hyd iddynt.
Ar y dudalen hon gallwch ddefnyddio'r hidlyddion ar y dde i gyfyngu'r canlyniadau i:
- unrhyw bwnc, neu gyfuniad o bynciau
- unrhyw statws, neu gyfuniad o statysau
- unrhyw ystod o ddyddiadau diweddar
Mae modd ichi addasu geiriad y chwiliad o’r dudalen hon, ac aildrefnu’r canlyniadau yn ôl amrywiaeth o opsiynau.
Sylwch y bydd TermCymru yn chwilio am ffurfiau treigledig ar eiriau Cymraeg sydd yn y gronfa, yn ogystal â’r ffurf gysefin, ee bydd chwilio am “Cymru” yn dod o hyd i dermau sy’n cynnwys y ffurfiau "Cymru", “Gymru”, “Chymru” a/neu “Nghymru”. Bydd y ffurfiau treigledig i’w gweld yn is i lawr y rhestr ganlyniadau na’r ffurf gysefin.
Wrth chwilio am dermau Saesneg, bydd TermCymru hefyd yn dod o hyd i amrywiadau ar y geiriau Saesneg hynny. Er enghraifft, wrth chwilio am 'organisation' bydd hefyd yn arddangos cofnodion sy'n cynnwys 'organisations', 'organised' ac 'organising'. Gall hefyd chwilio am rai mathau penodol o amrywiadau sillafu. Er enghraifft, wrth chwilio am 'organisation' bydd hefyd yn arddangos cofnodion sy'n cynnwys 'organization', a gall ddod o hyd i dermau â chysylltnod ynddynt hyn yn oed os na chynhwyswyd y cysylltnod yn y blwch chwilio.
Gallwch glicio ar derm penodol i fynd i dudalen sy'n arddangos y term hwnnw yn unig. Gall y cyfleuster hwn fod yn ddefnyddiol os ydych am anfon dolen i rywun at derm penodol.
