Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y mis blaenorol, ond roedd y ffigurau yn uwch nag ar gyfer unrhyw gofnod arall erioed ar gyfer mis Rhagfyr. Roedd canran y cleifion sy’n treulio llai na 4 awr yno yr isaf erioed i gael ei gofnodi. Roedd nifer y cleifion sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yr uchaf erioed i gael ei gofnodi.

Roedd nifer cyfartalog cyffredinol y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Rhagfyr. Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol yn y categori mwyaf difrifol (‘galwadau coch’) yr uchaf erioed i gael ei gofnodi ac roedd dros 100 am y tro cyntaf. Roedd canran y galwadau coch lle cafwyd ymateb o fewn 8 munud wedi cynyddu rhywfaint ers mis Tachwedd. Ond, ni lwyddwyd i gyrraedd y targed, sef 65%, am yr ail fis ers cyflwyno’r model ymateb clinigol newydd.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng ym mis Rhagfyr.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn debyg ond roedd y nifer wedi gostwng ar gyfer gwasanaethau therapi ym mis Tachwedd; roedd amseroedd aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi wedi cynyddu.

Roedd perfformiad atgyfeirio a thriniaeth yn wannach na’r mis diwethaf. Roedd canran y cleifion  a oedd wedi aros llai na 26 wythnos wedi gostwng (yr isaf ers mis Rhagfyr 2017) ac roedd y nifer a oedd wedi aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu (yr uchaf ers mis Ionawr 2018). Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth yr un rhif â’r mis diwethaf.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Tachwedd, cafwyd cynnydd yn nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau cael triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser. Ond cafwyd gostyngiad yn y nifer yn dechrau ar driniaeth heb fod drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser. Ers y mis diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael triniaeth o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys a’r rhai nad ydynt ar y llwybr brys. Mae’r perfformiad o ran y rheini sy’n cael triniaeth heb fod ar y llwybr brys yr isaf ers mis Hydref 2006. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, Tachwedd a Rhagfyr 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 622 KB

PDF
622 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.