Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Rydym yn atal dros dro rai o’r ystadegau am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Gweler datganiad y Prif Ystadegydd am fanylion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Cyhoeddiadau blaenorol

Adroddiad ansawdd

Datganiad y Prif Ystadegydd

Ym mis Tachwedd 2025, cafodd adrodd ar ddata'r rhestr aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ei atal dros dro yn dilyn pryderon am ansawdd data. Roedd y pryderon hyn yn cynnwys anomaleddau o ran meintiau'r rhestrau aros yr adroddwyd arnynt ac anghysondebau o ran gweithgarwch gweithredol. Roedd hyn yn tanseilio hyder yn nibynadwyedd y data.

Ers iddo gael ei atal, mae ystadegau RTT wedi parhau i gael eu cyhoeddi ar gyfer Cymru, ac eithrio BIPBC, gyda chanllawiau ar sut i ddehongli'r ffigurau hyn.

Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o brosesau data BIPBC ym mis Rhagfyr, gan gynnwys Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gwasanaethau ystadegol Llywodraeth Cymru, a bwrdd iechyd cymheiriaid. Archwiliodd yr adolygiad y trefniadau casglu data, sicrhau ansawdd a llywodraethiant. Nodwyd achos sylfaenol y broblem, ac mae'r bwrdd iechyd bellach wedi darparu data diwygiedig ac wedi rhoi sicrwydd ynghylch gwelliannau i'w brosesau data a llywodraethiant.

Yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae'r Prif Ystadegydd wedi penderfynu y dylid cyhoeddi'r ystadegau RTT diwygiedig cyn gynted â phosibl. Bydd y ffigurau diweddaraf ar gyfer BIPBC a Chymru yn cael eu rhyddhau ar 13 Ionawr 2026, gan gynnwys:

  • data diwygiedig hyd at Awst 2025
  • ffigurau newydd ar gyfer mis Medi a mis Hydref 2025

Bydd hyn yn sicrhau bod gwybodaeth gyfredol ar gyfer Cymru a'r holl fyrddau iechyd.

Rhaid i ystadegau swyddogol fodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r camau a gymerwyd wedi canolbwyntio ar adfer adroddiadau cywir a dibynadwy cyn gynted â phosibl i sicrhau bod yr ystadegau hyn yn parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cael gwybod am y penderfyniad hwn.