Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Medi a Hydref 2018 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Crynodeb
- Roedd cyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ychydig yn uwch ym mis Hydref a gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na phedair awr yno ychydig dros y mis. Roedd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi cynyddu o’i chymharu â mis Medi.
- Roedd nifer y galwadau bob dydd ar gyfartaledd i’r gwasanaeth ambiwlans wedi aros yr un fath (1,242) ym mis Hydref Roedd canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud wedi cyflawni’r targed ac wedi gwella o gymharu â mis Medi.
- Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth wedi disgyn ond roedd y nifer a oedd yn disgwyl mwy na 36 wythnos yn llai na’r mis blaenorol. Disgynnodd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na’r amser targed am brofion diagnostig ym mis Medi, ond cododd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na’r amser targed am wasanaethau therapi ychydig.
- Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwella’r mis yma ar ôl tri mis o ostyngiad. Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed ar gyfer cleifion nad oedden nhw ar y llwybr brys wedi cynyddu, gyda’r perfformiad yn agos at y targed. Roedd perfformiad wedi disgyn ar gyfer y rheini a oedd ar y llwybr brys.
- Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Tachwedd 2016. Roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.
- Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfartaledd ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfartaledd ym mis Hydref. Roedd nifer gyfartalog yr wythnosau aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth wedi cynyddu ym mis Medi ond roedd yr amser aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig neu wasanaethau therapi wedi disgyn.
Adroddiadau
Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Medi a Hydref 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 511 KB
PDF
511 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan GIG Cymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.