Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Hydref a Tachwedd 2018 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Crynodeb
- Roedd cyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn is ym mis Tachwedd a chynyddodd canran y cleifion sy'n treulio llai na phedair awr yno ychydig. Roedd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng 10% ogymharu â mis Hydref.
- Roedd nifer cyfartalog y galwadau bob dydd i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Tachwedd. Roedd canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud wedi cwrdd â’r targed ond roedd yn is nag oedd ym mis Hydref.
- Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed ar am brofion diagnostig wedi gostwng yn sylweddol, bron i draean ym mis Hydref, ond roedd y bobl a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau therapi wedi cynyddu ychydig. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth wedi cynyddu ond roedd mwy o gleifion yn disgwyl mwy na 36 wythnos ym mis Hydref nag a oedd ym mis Medi.
- Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi parhau i wella y mis hwn.
- Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion a oedd ar y llwybr brys. Roedd perfformiad wedi disgyn ychydig ar gyfer y rheini nad oedden nhw ar y llwybr brys ond roedd yn agos at y targed.
- Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Tachwedd 2016. Roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.
- Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros cyfartalog yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac i gyfartaledd amseroedd ymateb i alwadau brys ym mis Tachwedd. Mae’r amseroedd aros cyfartalog diweddaraf ar gyfer cael atgyfeiriad at driniaeth, profion diagnostig neu wasanaethau therapi wedi gostwng ers mis diwethaf.
Adroddiadau
Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: Hydref a Tachwedd 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 579 KB
PDF
579 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan GIG Cymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.