Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Mawrth a Ebrill 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Ebrill, sef yr uchaf i gael ei gofnodi. Gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno i’r isaf y mae wedi bod ers mis Mawrth 2018, a chynyddodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Ebrill 2019. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed ond roedd yn is nag ym mis Mawrth 2019.

Cynyddodd yr amser disgwyl cyfartalog ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys, a’r amser cyfartalog ar gyfer ymateb i alwadau brys ym mis Ebrill.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn is ym mis Mawrth, ac mae nifer y cleifion sy’n gorfod aros mwy na 14 wythnos am therapi yn is na maent wedi bod ers 2009, ond mae’r amser aros cyfartalog wedi cynyddu ar gyfer y ddau.

Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella gyda’r nifer uchaf o gleifion yn aros llai na’r 26 wythnos ers mis Gorffennaf 2013, y nifer isaf o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos ers mis Mai 2013, a gostyngiad mewn amser aros cyfartalog.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion ar y llwybr brys, ac wedi gostwng ar gyfer cleifion nad oeddent ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser.

Roedd gwelliant ym mherfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), ac roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Mawrth a Ebrill 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 500 KB

PDF
500 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.