Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Ionawr a Chwefror 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Crynodeb

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch ym mis Chwefror – y ffigurau uchaf ar gyfer Chwefror ers dechrau’r cofnodion. Cynyddodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno a gostyngodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans yn is ym mis Chwefror. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed ac roedd fymryn yn uwch nag yr oedd ym mis Ionawr.

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig yn uwch ym mis Ionawr ond roedd yn is ar gyfer gwasanaethau therapi – y lefel isaf ers mis Ionawr 2011. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth yn uwch o’i gymharu â mis Rhagfyr, ond roedd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na 36 wythnos yn uwch. Roedd gwelliant ym mherfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi cynyddu ar gyfer cleifion nad oedd ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser ond roedd wedi gostwng ar gyfer y rheini nad oeddent ar y llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cynyddu ac roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.

Cafwyd gostyngiad yn amseroedd aros cyfartalog yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Chwefror ac roedd cyfartaledd yr amseroedd ymateb i alwadau brys ar gyfer ambiwlansys yn gyflymach nag yn y mis blaenorol. Cynyddodd yr amseroedd aros cyfartalog diweddaraf rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ond bu gostyngiad yn yr amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi ym mis Ionawr.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Ionawr a Chwefror 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 505 KB

PDF
505 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.