Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Ebrill a Mai 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn is ym mis Mai. Cynyddodd canran y cleifion sy'n treulio llai na 4 awr yno a gostyngodd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yno.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi gostwng ym mis Mai 2019. Fe wnaeth canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud gwrdd â’r targed ond roedd fymryn yn is nag ym mis Ebrill 2019.

Gostyngodd yr amser disgwyl cyfartalog ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys a’r amser cyfartalog ar gyfer ymateb i alwadau brys ym mis Mai.

Cynyddodd nifer y trosglwyddiadau gofal hwyr.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a therapi yn uwch ym mis Ebrill ac roedd yr amser aros cyfartalog wedi cynyddu ar gyfer y ddau.

Roedd perfformiad rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwaethygu gyda gostyngiad yng nghanran y cleifion a wnaeth aros llai na’r 26 wythnos a chynnydd yn nifer y cleifion a wnaeth aros mwy na 36 wythnos. Roedd yr amser aros yn uwch ar gyfartaledd.

Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys a chleifion nad oeddent ar y llwybr brys.

Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwaethygu.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Ebrill a Mai 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 506 KB

PDF
506 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.