Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Medi a Hydref 2019 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Gofal heb ei drefnu

Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y mis blaenorol, ond roedd y ffigurau yn uwch nag ar gyfer unrhyw gofnod arall erioed ar gyfer mis Hydref. Roedd canran y cleifion sy’n treulio llai na 4 awr yno wedi gostwng rhywfaint ers y mis blaenorol, a dyma’r ffigur isaf erioed i gael ei gofnodi. Mae nifer y cleifion sy’n treulio dros 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y ffigur uchaf erioed y mis diwethaf, ac mae amseroedd aros ar gyfartaledd yn yr adrannau hyn yn dal i fod yn weddol gyson ar hyd y flwyddyn.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans wedi cynyddu ym mis Hydref, a chafwyd canran uwch nag erioed o alwadau yn y categori mwyaf difrifol (‘galwadau coch’). Llwyddwyd i gyrraedd y targed, sef 65%, ar gyfer ymateb i alwadau coch o fewn 8 munud, ond mae wedi parhau â’r duedd ddiweddar ar i lawr. Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer ymateb ambiwlansys i alwadau coch wedi cynyddu ychydig ym mis Hydref, a dyma’r ail ffigur uchaf i gael ei gofnodi erioed.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi gostwng rhywfaint ym mis Hydref.

Gofal wedi’i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig wedi gostwng ond roedd y nifer a oedd yn aros am brofion therapi wedi cynyddu ym mis Medi. Roedd amseroedd aros cyfartalog wedi gostwng ar gyfer profion diagnostig a phrofion therapi.

Roedd perfformiad atgyfeirio a thriniaeth yn gymysg ers y mis diwethaf. Roedd canran is o gleifion wedi aros llai na 26 wythnos ond roedd llai o gleifion wedi aros mwy na 36 wythnos. Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth wedi cynyddu rhywfaint ers y mis diwethaf, ac mae hyn yn gyson â’r duedd yn ystod y flwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi, cafwyd cynnydd yn nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau cael triniaeth. Ers y mis diwethaf, mae canran y cleifion sy’n cael triniaeth o fewn yr amser targed wedi gostwng ar gyfer cleifion ar y llwybr brys a’r rhai nad ydynt ar y llwybr brys. Mae ystadegau arbrofol ar gyfer un llwybr canser wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd.

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, Medi a Hydref 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 556 KB

PDF
556 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.