Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn crynhoi data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru ar gyfer Ionawr i Chewefror 2020.

Yn dilyn y cyhoeddiad ar Ddydd Gwener Mawrth 13eg o ran llacio targedau a monitro'r GIG yng Nghymru yn ogystal â chanslo rhai gweithdrefnau, rydym yn ystyried pa newidiadau y mae angen eu gwneud i gyhoeddi'r ystadegau hyn. Byddwn yn diweddaru defnyddwyr yn fuan ar ein cynlluniau.

Gofal heb ei drefnu

Roedd canran y cleifion sy’n treulio llai na 4 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gwella ac roedd nifer y cleifion sy’n treulio dros 12 awr yno wedi lleihau ers y mis blaenorol. Roedd cyfartaledd y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng ers y mis blaenorol.

Roedd nifer cyfartalog cyffredinol y galwadau dyddiol i’r gwasanaeth ambiwlans a nifer cyfartalog y galwadau dyddiol yn y categori mwyaf difrifol (‘galwadau coch’) yn is ym mis Chwefror 2020. Roedd canran y galwadau coch lle cafwyd ymateb o fewn 8 munud wedi cynyddu ac yn uwch na’r targed o 65%.

Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cynyddu ym mis Chwefror ond roedd y cyfartaledd dros dri mis wedi gostwng.

Gofal wedi'i drefnu

Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a gwasanaethau therapi wedi cynyddu ym mis Ionawr. Roedd amseroedd aros cyfartalog (canolrif) ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi wedi gostwng.

Roedd perfformiad atgyfeirio a thriniaeth wedi gostwng ers y mis diwethaf. Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos wedi gostwng (yr isaf ers mis Medi 2011) ac roedd y nifer a oedd wedi aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu (yr uchaf ers mis Awst 2015). Roedd yr amser cyfartalog ar gyfer aros am driniaeth hefyd yn uwch na’r mis diwethaf.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Ionawr 2020, mae nifer y cleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau cael triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser wedi cynyddu. Fodd bynnag, dros yr un cyfnod mae’r nifer yn dechrau ar driniaeth heb fod drwy’r llwybr brys ar gyfer amheuaeth o ganser wedi gostwng. Roedd y perfformiad yn is na’r targed ar gyfer y rheini sy’n cael eu trin ar y llwybr brys a’r rhai nad ydynt ar y llwybr brys.

Mae ystadegau arbrofol yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu trin o fewn yr amser targed hefyd wedi gostwng ar gyfer yr un llwybr canser.

Adroddiadau

Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG, Ionawr i Chewefror 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 572 KB

PDF
572 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.