Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi rhaglen £2 filiwn i cynllun peilot yn rhanbarth 'Arfor' yn Gorllewin Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Cronfa Arloesi Arfor, sy'n deillio o gytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, yn darparu cymorth yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn enwedig mewn ardaloedd lle y mae canran uchel o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, a lle y mae llawer o bobl henach yn symud i mewn i'r ardaloedd hynny a phobl ifanc yn symud allan ohonynt. Bydd yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny lle y mae'r economi sylfaenol ac amaethyddol yn hollbwysig ac mewn trefi marchnad a phrifysgol lle y mae incymau isel yn dal i fod yn broblem.

Bydd yr arian hwn a fydd ar gael i'r pedwar awdurdod lleol yn cael ei ddefnyddio i hwyluso dulliau newydd ac arloesol o ddatblygu'r economi yn y rhanbarth, drwy:

  • hybu mentrau a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd lle y mae canran uchel o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg
  • sicrhau swyddi gwell sy'n talu'n well i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog y rheini sydd wedi gadael i ddychwelyd
  • hyrwyddo gwerth siarad Cymraeg a dwyieithrwydd mewn busnesau gan greu naws cyffrous am le
  • annog busnesau a phobl sy'n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio'r Gymraeg.
Yn ogystal â helpu amrywiaeth o brosiectau ym mhob ardal awdurdod lleol, bydd natur y cynllun yn sicrhau cydweithio ar draws prosiectau lle y bydd modd gweld y manteision ar draws ffiniau cynghorau. Bydd gwerthusiad o'r rhaglen yn cael ei gomisiynu i nodi llwyddiant neu wendidau ymyriadau unigol ac arferion gorau.

Wrth gyhoeddi'r rhaglen newydd hon heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Nod y rhaglen arloesol hon, sy'n seiliedig ar drafodaeth eang gyda phartneriaid awdurdodau lleol, yw profi ein dulliau newydd o hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes a chydnerthedd cymuned yn y pedair ardal, gan hoelio sylw ar ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi wedi pwysleisio bod angen i Lywodraeth Cymru helpu pob rhan o'n heconomi i wella sgiliau, annog arloesedd a nodi a defnyddio technoleg newydd. Rwy'n falch felly o ddarparu £2 filiwn dros ddwy flynedd i gefnogi'r fenter hon a fydd yn helpu i lywio gweithgareddau yn yr ardaloedd hynny yn y fro Gymraeg lle y mae'r economïau gwledig a sylfaenol yn hollbwysig."

Bydd Cyngor Sir Gwynedd yn cydgysylltu'r rhaglen ar ran y pedwar awdurdod lleol er mwyn lleihau costau.

Wrth siarad ar ran partneriaeth Arfor, dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

"Mae cyhoeddiad heddiw yn gam ymlaen pwysig yn ein hymdrech i greu dyfodol ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer pobl a chymunedau Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd a dyfodol disglair i'r Gymraeg ar draws y rhanbarth.

Mae'r buddsoddiad cychwynnol hwn yn gyfuniad o sawl mis o gydweithio rhwng Arweinwyr pedwar cyngor Arfor a Llywodraeth Cymru. Gyda'r arian bellach yn ei le, gallwn symud ymlaen i edrych ar ffyrdd o sicrhau economi amrywiol a ffyniannus sy'n cynnwys gwaith newydd am dâl gwell i bobl leol a fydd, yn ei dro, yn hybu'r Gymraeg.

Rydym yn gobeithio y bydd y cam cyntaf hwn o'r prosiect yn hybu economi Arfor ac yn cyfrannu at darged y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."