Telerau a buddion Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru
Mae dilyn gyrfa gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys trefniadau gweithio hyblyg a chyfleoedd i hyfforddi.
Bandiau cyflog
| Lefel | Ystod cyflog |
|---|---|
| Band Tîm | £27,302 i £29,291 |
| Band Rheoli 3 | £30,754 i £34,997 |
| Band Rheoli 2 | £37,111 i £45,378 |
| Band Rheoli 1 | £47,675 i £56,445 |
| Band Gweithredol 2 | £61,098 i £73,057 |
| Band Gweithredol 1 | £76,715 i £88,023 |
Gwyliau
Mae gan weithwyr amser llawn hawl i 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, yn ogystal â 11 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
Hyfforddiant
Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gan bob aelod o staff fynediad at gyfleoedd hyfforddi.
Gweithio hyblyg
Y tu allan i'r oriau'r craidd, mae ein staff yn rhydd i gyrraedd a gadael pan fyddant yn dewis. Rydym hefyd yn cynnig trefniadau gweithio yn ystod y tymor i staff sydd â chyfrifoldebau gofal plant.
Mae'r trefniadau gweithio hyblyg yn cynnwys:
- 26 o wythnosau o absenoldeb mamolaeth gyda chyflog llawn
- 15 o ddiwrnodau o absenoldeb rhiant gyda thâl
- seibiannau gyrfa i astudio, teithio, neu wneud gwaith gwirfoddol.
Iechyd, diogelwch a lles
Mae gennym dimau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol penodedig i roi cymorth i staff.
Undebau llafur
Mae 3 undeb llafur yn weithredol yn ein sefydliad: PCS, IPMS/Prospect a FDA.
