Swyddi gwag
Os ydych chi'n chwilio am yrfa newydd yna byddai swydd yn Llywodraeth Cymru yn lle gwych i ddechrau.
Mae gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil Cymru yn cynnig:
- cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru
- dysgu yn y swydd a chyfleoedd da i ddatblygu gyrfa
- oriau gweithio hyblyg a buddion cynhwysfawr.
Mae yna wahanol ffyrdd o ymuno â'r gwasanaeth sifil yng Nghymru.
Cydraddoldeb
Mae ein polisi i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein busnes gan gynnwys penodiadau.
Croesawir ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo’u hoedran, priodas (yn cynnwys cyfartal/un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth a mynegiant ryweddol, anabledd (os oes ganddynt nam neu gyflwr iechyd); a ydynt yn niwroddirywiol neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain; hil, crefydd neu gred neu beichiogrwydd/mamolaeth.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu y byddwn yn cyfweld unrhyw ymgeisydd sydd â nam, cyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd.
Yn 2021 ni oedd y sefydliad sector cyhoeddus cyntaf i lofnodi’r ‘Pledge to be Seen’ gan ‘Changing Faces’ i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal i bobl â gwahaniaethau ac anffurfiad gweladwy ledled Cymru.
Rydym yn ymfalchïo bod yn gyflogwr o ddewis, sefydliad y mae pobl eisiau gweithio ac yn falch o weithio iddo. Am y rheswm hwn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth staff yn cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru.
- Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS)
- Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN)
- PRISM (LHDTI+)
- Rhwydwaith Menywod (Menywod Ynghyd)
- Materion y Meddwl (Iechyd Meddwl)
Gwobrau



Partneriaeth gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
- PCS
- Prospect
- FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
- cyflog
- telerau ac amodau
- polisïau a gweithdrefnau
- newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.