Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Enillwch gyflog wrth ichi ddysgu gyda phrentisiaeth Llywodraeth Cymru.

P’un a ydych yn gadael addysg, yn dychwelyd i’r gwaith, neu’n chwilio am yrfa newydd, mae prentisiaeth gyda ni yn cynnig y cyfle ichi fagu profiad gwerthfawr, ennill cyflog a chael cymhwyster cydnabyddedig.

Fel un o’r sefydliadau mwyaf amrywiol yng Nghymru – sydd â staff o amrywiaeth o gefndiroedd yn gweithio iddo – rydym yn cynnig cyfleoedd ar draws ystod eang o broffesiynau. Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch arwain, a bydd amser yn cael ei neilltuo ichi ar gyfer astudio drwy gydol eich prentisiaeth. O’r diwrnod cyntaf un, byddwch yn dod yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Pa brentisiaethau sydd ar gael?

Mae ein rhaglenni prentisiaethau Cyffredinol a Digidol, Data a Thechnoleg yn agor ar gyfer ceisiadau ar 17 Awst 2026, ac mae’r hysbyseb ar agor am 6 wythnos hyd at 28 Medi 2026.

Pwy sy’n gallu cais?

Rydych yn gallu gwneud cais os:

  • byddwch yn 16 oed neu’n hŷn pan fydd eich prentisiaeth yn dechrau.
  • byddwch wedi cwblhau, neu’n bwriadu cwblhau, unrhyw addysg amser llawn cyn dechrau’r brentisiaeth.
  • rydych yn bodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil a rheolau mewnfudo’r Deyrnas Unedig.

Cyflog a Buddion

Fel prentis Llywodraeth Cymru, byddwch yn:

  • dechrau ar gyflog o £27,302.
  • dod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
  • cael 31 o ddiwrnodau o wyliau â thâl, yn ogystal ag 11 o ddiwrnodau o wyliau cyhoeddus a braint.
  • ennill cymhwyster NVQ Lefel 3 wrth gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.
  • ymuno â rhaglen brentisiaeth 18 mis gyda’r cyfle i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau.

Pam ymuno â ni?

Mae gweithio i Lywodraeth Cymru yn cynnig mwy na chymhwyster yn unig. Byddwch yn elwa ar:

  • opsiynau gweithio hyblyg a hybrid i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
  • cyfleoedd gwych i ddysgu a datblygu.
  • cymorth wedi’i neilltuo ar gyfer eich lles, iechyd a materion byd gwaith.
  • clybiau, rhwydweithiau a gweithgareddau cymdeithasol i staff.
  • mynediad at fentoriaid a chyfleoedd i feithrin cysylltiadau ar draws y sefydliad.

Ymunwch â ni i ddatblygu eich sgiliau, ennill cymhwyster cydnabyddedig a helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gymru.

Eisiau gwybod mwy?

Rydym yn cynnal cyfres o ddiwrnodau agored a gweminarau arlein lle fedrwch ddarganfod fwy am brentisiaeth yn Llywodraeth Cymru.

Gwnewch cais nawr!

Cymerwch y cam cyntaf tuag at ddod yn brentis gyda Llywodraeth Cymru.

ar Swyddi gwag Llywodraeth Cymru

Cymerwch olwg ar ein llyfrgell fideo

Gweithio i Lywodraeth Cymru

Gwyliwch ein fideos i ddarganfod fwy am pam mae Llywodraeth Cymru yn lle gwych i weithio.

Astudiaethau achos

Gwyliwch ein fideos astudiaethau achos lle mae prentisiaid presennol a’u rheolwr yn siarad yn uniongyrchol am Gynllun Prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Cwblhewch eich cais

Cyn ichi wneud cais, bydd angen y rhain arnoch wrth law:

  • manylion cyswllt ar gyfer dau ganolwr.
  • enghreifftiau sy’n dangos eich sgiliau a’ch profiad.
  • copïau o unrhyw gymwysterau sydd gennych ar hyn o bryd (os yw’n berthnasol).

Beth fydd yn digwydd ar ôl imi wneud cais?

Ar ôl ichi gyflwyno cais, gofynnir ichi ateb rhai cwestiynau gan ein darparwr hyfforddiant i asesu eich cymhwystra. Wedyn, byddwch yn cael e-bost ar bob cam o’r broses recriwtio – o’r cam sifftio ceisiadau hyd at y cyfweliad a chael cynnig rôl. 

Rhywle lle y gall pawb ffynnu

Yn Llywodraeth Cymru, rydym am i’n gweithlu gynrychioli amrywiaeth pobl Cymru a bod yn rhywle lle y mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a’u bod nhw’n gallu llwyddo. Wedi'i arwain gan ein gwerthoedd o degwch, creadigrwydd, partneriaeth a phroffesiynoldeb, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol lle mae lles, dysgu a datblygu yn flaenoriaeth.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall a phobl anabl.

Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi ymrwymo i’r Model Cymdeithasol o Anabledd a byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu unrhyw addasiadau sydd eu hangen drwy gydol y broses recriwtio a wedi hynny. Rydym hefyd yn cynnig cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer pobl anabl a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n diwallu’r meini prawf sylfaenol.

Os byddwch yn ymuno â ni, byddwch yn gallu cysylltu ag amrywiaeth o rwydweithiau staff a chymunedau cefnogol a fydd yn eich helpu i feithrin cysylltiadau, datblygu eich gyrfa a bod yn driw i chi eich hunan yn y gwaith. 

Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu sefydliad cynhwysol lle gall pawb gyfrannu, tyfu a gwneud gwahaniaeth i Gymru.

 

Apprentices logo

Image
Prentisiaethau Dewis Doeth

 

 

 

Recruitment logos