Neidio i'r prif gynnwy

Meleri yn siarad am fuddion prentisiaethau Llywodraeth Cymru

Trawsgrifiad o'r fideo

Beth ry’ ni’n edrych am yw pobl gyda’r agwedd cywir. Pobl sy’ eisiau dysgu sy’n brwdfrydig am y pwnc am dysgu am ‘neud y gwaith.

‘Da ni ddim yn disgwyl i chi ddod i fewn gyda gwybodaeth am y pwnc ac yn gwybod beth i wneud gyda’r sgiliau i gyd. Ein swydd ni yw i ddysgu hwnna i chi

Dwi’n y Rheolwr Sgiliau a Gweithlu a dwi’n gyfrifol ar gyfer y prentisiaeth a edrych ar ôl y Prentisiaid i gyd a gwneud yn siŵr bod nhw’n cael y profiad ry’ ni eisiau eu datblygu nhw pan mae’n nhw’n dod mewn i’r Llywodraeth ac i’r proffesiwn digidol, data, technoleg yn benodol.

A ni’n gweithio yn galed o fewn yr wythnos cyntaf lle ni’n datblygu perthynas gyda’r prentisiaid i gyd i ddeall eu profiad nhw cyn dod i fewn i’r llywodraeth - i ddeall pa sgiliau sy’ gyda nhw, pa diddordebau sy’ gyda nhw

Ni’n dod i nabod y prentisiaid fel bod ni’n gallu helpu nhw a bod nhw gyda’r perthynas bod nhw’n gwybod pwy ydyn ni,

Trwy gydol y prentisiaeth wedyn felly os mae unrhyw problem neu unrhyw beth sy’n pryderu nhw bod nhw’n gallu dod ato ni

Ni’n gallu rhoi y sgiliau i chi, ni’n gallu rhoi’r gwybodaeth i chi a cael yr agwedd yna yn gywir ar dechrau sy’n bwysig i helpu gyda setlo pobl i mewn a cael nhw i mewn i'r swyddi cywir hefyd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg ma’ fe’n sgil arbennig a ry’ ni’n falch iawn o gael pobl sy’n gallu siarad Cymraeg

Mae lot o bobl yn anhyderus o gwmpas eu Cymraeg falle ddim wedi dim wedi defnyddio fe yn aml iawn neu heb cael lot o ymarfer yn ddiweddar, wedi gadael ysgol a symud ‘mlaen a dim wedi defnyddio fe cymaint.

Yr unig bryd ry’ ni’n mynd i brofi’ch Cymraeg yw os bod e yn dweud ar y swydd fod e’n angenrheidiol i siarad Cymraeg ar gyfer y swyddi hynny mae’n rhaid i ni profi e tamaid bach i weld bo’ chi’n gallu siarad Cymraeg.

Ond heblaw am ‘ny allwch chi dewis i wneud eich cais drwy’r Cymraeg neu Saesneg. Gallwch chi wneud eich cais yn Saesneg a dal fod yn rhugl yn y Gymraeg – dwi’n neud hynny.

Y pwynt yw i chi fod yn gyfforddus a gallu ‘neud eich gorau

Eich datblygiad chi yw e ar diwedd y dydd – ni yma i gefnogi. Ry’ ni’n edrych i gadw cymaint o bobl a ni gallu o fewn proffesiwn.

Felly bob cam o’r ffordd i ni yma i’ch helpu chi ffeindio’ch ffordd trwy hynny.

Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Mwy o wybodaeth am fod yn brentis gyda Llywodraeth Cymru.