Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies, Gregory Owens a Stephen Mulholland fel aelodau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Meddai Alun Davies: 

"Rwy'n falch o gyhoeddi ail-benodiad Gregory Owens a Stephen Mulholland”.

"Bydd yr ail-benodiadau hyn yn sicrhau bod y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol ar y Panel wrth iddynt barhau i ddarparu fframwaith cydnabyddiaeth deg a fforddiadwy ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru”.

"Mae Mr Owens a Mr Mulholland wedi gwasanaethu fel cynghorwyr a byddant yn parhau i ddod â phrofiad gwerthfawr i'r rolau."

Mae'r ail-benodiadau wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a byddant yn dechrau ar 1 Ionawr 2019 am dymor dwy flynedd.

Fel aelod mae Mr Mulholland yn cael ei dalu ffi ddyddiol o £198 gydag ymrwymiad amser o o leiaf un diwrnod y mis.

Fel is-gadeirydd mae Mr Owens yn cael ei dalu ffi ddyddiol o £226 gydag ymrwymiad amser o o leiaf un diwrnod y mis.

Mae Gregory Owens wedi datgan gweithgaredd gwleidyddol.