Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chefnogaeth i'r rheini sy'n dioddef trais ar sail anrhydedd (HBV) neu briodas dan orfod neu i'r rheini sy'n adnabod rhywun sy'n dioddef hynny.

Mae trais ar sail anrhydedd yn drosedd ddifrifol. Mae’n seiliedig ar ganfyddiadau diwylliannol o unigolion yn dwyn ‘gwarth’ neu ‘amharch’ ar unigolion, teulu neu’r gymuned ehangach. Mae Priodas dan Orfod neu Gam-drin Domestig yn fathau o drais ar sail anrhydedd.

Os ydych chi’n dioddef neu’n ofni eich bod mewn perygl o ddioddef Trais ar sail Anrhydedd neu Briodas dan Orfod, gallwch siarad â phobl a fydd yn gallu darparu cymorth a chefnogaeth i chi’n gyfrinachol.

BAWSO

Ffoniwch: 0800 731 8147

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gwefan BAWSO

Llinell Gymorth yr Uned Priodasau dan Orfod

Yn y DU, ffoniwch: 020 7008 0151

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd at 5pm

O dramor, ffoniwch: +44 (0)20 7008 0151

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd at 5pm

Y tu allan i oriau, ffoniwch: 020 7008 1500

Gofynnwch am y Ganolfan Ymateb Fyd-eang

Codir y gyfradd safonol am alwadau llinell tir a gall cyfraddau ffonau symudol amrywio. Gall galwadau o ffonau talu gostio mwy

Cwestiynau cyffredin

Beth yw trais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod?

Ystyr cam-drin ar sail anrhydedd yw digwyddiad neu drosedd sy'n ymwneud â thrais, bygythiadau o drais, codi ofn, gorfodaeth neu gamdriniaeth (gan gynnwys camdriniaeth seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol), sydd wedi neu a allai fod wedi eu cyflawni i amddiffyn neu warchod anrhydedd yr unigolyn, y teulu a/neu'r gymuned - oherwydd honnir bod cod ymddygiad y teulu a/neu'r gymuned wedi'i dorri.

Er bod trais domestig yn fath o drais ar sail anrhydedd, y prif wahaniaeth yw nifer y bobl sy’n gysylltiedig â hynny a faint o ran sydd gan y teulu ehangach a’r gymuned ehangach yn hynny. Mae trais ar sail anrhydedd yn ymwneud â’r rheolaeth gyffredinol sydd gan deulu dros ymddygiad y fenyw. Yn hyn o beth, efallai bod nifer fawr o gyflawnwyr posib, a hyd yn oed mwy fyth o bobl sy’n barod i gynllunio hyn neu gymryd rhan mewn gweithredoedd treisgar.

Os ydych chi’n dioddef neu’n ofni eich bod mewn perygl o ddioddef Trais ar sail Anrhydedd neu Briodas dan Orfod, gallwch siarad â phobl a fydd yn gallu darparu cymorth a chefnogaeth i chi’n gyfrinachol. 

Beth yw arwyddion a dangosyddion trais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod?

Go brin y bydd unigolyn (yn enwedig plant a phobl ifanc) yn dweud wrth ffrindiau, cydnabod neu weithwyr proffesiynol eu bod naill ai mewn priodas (FM) dan orfod neu’n dioddef trais ar sail ‘anrhydedd’ (HBV). 

Mae’n bwysig felly eich bod yn ymwybodol o sut y gall rhywun ymddwyn os ydynt naill ai mewn perygl neu eisoes mewn priodas dan orfod neu’n dioddef trais ar sail anrhydedd.

Mae dangosyddion posibl trais ar sail anrhydedd a/neu briodas dan orfod yn gallu cynnwys y canlynol:

Addysg  

  • Tynnu disgybl o’r ysgol gan rai â chyfrifoldeb rhiant.
  • Tynnu unigolyn ag anabledd corfforol neu ddysgu o ganolfan ddydd. 
  • Myfyriwr yn cael ei atal rhag mynychu addysg bellach neu uwch. 
  • Triwantiaeth neu absenoldebau parhaus. 
  • Cais am absenoldeb estynedig neu fyfyriwr ddim yn dychwelyd o ymweliad tramor. 
  • Brawd neu chwaer/cefndryd/aelodau o’r teulu estynedig yn cadw llygad barcud ar y disgybl yn yr ysgol. 
  • Dirywiad mewn ymddygiad, diddordeb, perfformiad neu bresenoldeb, canlyniadau arholiadau gwael – yn enwedig yn achos disgybl a arferai fod yn hynod ymroddgar. 
  • Dirywiad mewn ymarweddiad neu ymddangosiad corfforol.

Iechyd

  • Rhywun gyda’r claf bob tro wrth ymweld â meddyg, bydwraig a/neu glinigau.
  • Hunan-niwed a/neu anhwylder bwyta.
  • Ceisio cyflawni hunanladdiad.
  • Iselder.
  • Arwahanrwydd. 
  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau. 
  • Beichiogrwydd buan, diangen neu gyson. 
  • Anffurfio organau cenhedlu benywod.
  • Anafiadau anesboniadwy.

Personol

  • Cyhoeddiad dyweddïad â dieithryn yn sydyn.

Hanes teuluol

  • Brawd neu chwaer yn cael eu gorfodi i briodi. 
  • Brawd eu chwaer yn priodi’n ifanc.
  • Brawd neu chwaer yn hunan-niweidio neu’n cyflawni hunanladdiad. 
  • Rhiant yn marw. 
  • Anghydfod teuluol. 
  • Trais a cham-drin domestig.
  • Dianc o gartref. 
  • Cyfyngiadau afresymol (e.e. cyfyngu i’r tŷ). 
  • Byth yn cael gadael cartref ar ei ben ei hun. 
  • Cyfyngiadau ariannol (e.e. ddim yn gallu defnyddio ei arian neu gyfrif banc ei hun).

Cyflogaeth

  • Perfformio’n wael. 
  • Presenoldeb gwael. 
  • Dewisiadau gyrfa cyfyng. 
  • Ddim yn gallu mynychu digwyddiadau na theithiau busnes. 
  • Dim caniatâd i weithio

Ariannol

  • Yn destun rheolaeth ariannol (e.e. ddim yn cael defnyddio ei arian na’i gyfrif banc ei hun).

Cysylltiad â’r heddlu yn sgil un o’r canlynol:

  • Y dioddefwr neu frawd/chwaer ar goll.
  • Adroddiadau am gam-drin domestig, aflonyddu treisgar neu dor-heddwch ar yr aelwyd.
  • Adroddiadau am droseddau eraill fel treisio neu herwgipio.
  • Aelodau o’r teulu yn riportio’r dioddefwr am droseddau honedig (e.e. camddefnyddio sylweddau, dwyn o siopau).
  • Bygythiadau i ladd.
  • Ceisio lladd neu niweidio. 
  • Ymosodiadau asid. 
  • Anffurfio organau cenhedlu benywod (trosedd dan y Female Genital Mutilation Act 2003).

Rwy'n cael fy ngorfodi i briodi, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi’n cael eich gorfodi i briodi rhywun nad ydych chi eisiau ei briodi, gallech deimlo nad oes gennych unrhyw reolaeth ar y mater. 

Mae’n bwysig eich bod chi’n meddwl am eich dyfodol, eich diogelwch a beth fyddai priodas dan orfod yn ei olygu i chi.

Gall fod yn anodd a dryslyd os ydych chi’n caru’ch rhieni ac eto’n ansicr pam eich bod yn cael eich gorfodi i briodi. Efallai y byddan nhw’n dweud eich bod yn dwyn gwarth a chywilydd ar eich teulu os na briodwch chi. Hwyrach bydd eich rhieni’n dweud y byddant yn eich diarddel yn llwyr. Cam-drin emosiynol yw hyn.

Os na allwch chi siarad â’ch rhieni, ceisiwch siarad ag oedolyn arall rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi, fel aelod o’r teulu, athro neu nyrs yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn cael gair â rhywun cyn gynted â phosib, fel eich bod yn ddiogel ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 er mwyn siarad â’r heddlu.

Os ydych chi’n cael eich gorfodi i briodi yn y DU

Ffoniwch linell gymorth yr Uned Priodasau dan Orfod ar 020 7008 0151 (9-5pm), neu os ydych eisiau siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, ffoniwch 020 7008 1500 (a gofyn am y Global Response Centre).

Os ydych chi’n cael eich cymryd i wlad arall er mwyn cael eich gorfodi i briodi

Os ydych chi’n gwybod y byddwch yn gorfod mynd i wlad arall i briodi, yna ffoniwch linell gymorth yr Uned Priodasau dan Orfod ar 020 7008 0151 ac esbonio beth sy’n digwydd. Gall yr Uned eich helpu i gael Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod.

Os ydych chi eisoes yn y maes awyr neu’n teithio, gallwch siarad â staff diogelwch neu heddweision yn y maes awyr, a gallen nhw eich helpu chi.

Meddyliwch yn ofalus iawn cyn gadael y wlad, gan y gallai fod yn anoddach o lawer cael cymorth pan rydych chi dramor.

Ceisiwch ddweud wrth oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo/ynddi neu ffrind agos bod rhywun yn mynd â chi i ffwrdd, a chadwch eu manylion cyswllt gyda chi. Gallech hefyd fynd â manylion cyswllt yr Uned Priodasau dan Orfod neu Lysgenhadaeth Prydain yn y wlad rydych chi’n mynd iddi, fel bod rhywfaint o wybodaeth gennych pe baech angen cymorth.

Beth os ydw i dramor yn barod ac yn sylweddoli y bydda i’n cael fy ngorfodi i briodi?

Efallai’ch bod yn credu eich bod yn mynd ar wyliau teuluol, ond yna’r sylweddoli bod cynlluniau ar droed i chi briodi. Mewn rhai diwylliannau, mae teuluoedd yn trefnu gwyliau adeg gwyliau crefyddol.

Mae bod dramor, a sylweddoli beth sydd ar fin digwydd, yn gallu bod yn brofiad brawychus. Gallech gysylltu â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi yn y DU a fyddai wedyn yn gallu dweud wrth eich athro neu’r heddlu. Gallant gysyllltu â’r Uned Priodasau dan Orfod a allai’ch helpu i ddychwelyd adref, neu gallwch eu ffonio o dramor ar +44 (0)20 7008 0151. Gallwch hefyd gysylltu â Llysgenhadaeth Prydain yn y wlad rydych chi ynddi, er mwyn iddynt eich helpu i adael y wlad a chadw’n ddiogel.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng trais ar sail anrhydedd a thrais domestig?

Er bod trais domestig yn fath o drais ar sail anrhydedd, y prif wahaniaeth yw nifer y bobl sy’n gysylltiedig â hynny a faint o ran sydd gan y teulu ehangach a’r gymuned ehangach yn hynny.

Gall partner camdriniol mewn priodas neu berthynas agos gyflawni trais fel unigolyn.

Mae trais ar sail anrhydedd yn ymwneud â’r rheolaeth gyffredinol sydd gan deulu dros ymddygiad y fenyw. Yn hyn o beth, efallai bod nifer fawr o gyflawnwyr posib, a hyd yn oed mwy fyth o bobl sy’n barod i gynllunio hyn neu gymryd rhan mewn gweithredoedd treisgar.

Mae hyn yn achosi problemau i asiantaethau amddiffyn gan ei fod yn lluosogi nifer yr ymosodwyr posibl, a gall fod yn anodd casglu tystiolaeth gan fod llai o dystion yn fodlon rhoi tystiolaeth.

A yw priododas dan orfod yn erbyn y gyfraith?

Ydy. Mae’n drosedd mynd â rhywun dramor a’u gorfodi i briodi. 

Mae trosedd wedi’i chyflawni os yw’r unigolyn (cyflawnwr) sy’n gorfodi rhywun i briodi:

  • wedi defnyddio trais, bygythiadau neu unrhyw fath arall o orfodaeth er mwyn peri i rywun arall briodi
  • os yw ef/hi’n gwybod nad yw’r dioddefwr yn cydsynio i briodi, neu nad yw’n rhesymol gredu ei bod yn cydsynio i briodas (rhaid i’r cydsyniad fod yn rhydd a llwyr).

Mae twyllo’r dioddefwr gyda’r bwriad o achosi’r dioddefwr i adael y DU yn drosedd hefyd; a chynllunio i orfodi’r dioddefwr i briodi heb gydsynio (rhaid i’r cydsyniad fod yn rhydd a llwyr).

Gall llysoedd gyflwyno sawl peth i’ch diogelu chi, hyd yn oed os yw’r llys yn penderfynu bod y sawl a gyhuddwyd o briodas dan orfod yn ddieuog. Gallai’r rhain gynnwys gorchmynion atal, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i unigolyn wneud pethau penodol neu eu rhwystro rhag gwneud pethau penodol neu Orchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod (FMPO).

Hefyd, mae amryw o droseddau eraill sy’n cwmpasu gweithredoedd sy’n digwydd yn aml pan fo rhywun dan orfodaeth i briodi, er enghraifft treisio, ymosod, dwyn, herwgipio, blacmel ac aflonyddu.

Gall yr heddlu ddewis cyhuddo’r cyflawnwr o un neu fwy o’r troseddau hyn hefyd yn ogystal â’r drosedd o briodas dan orfod neu yn lle’r drosedd honno.

Beth yw Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod?

Math o waharddeb (gorchymyn llys) yw Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod sy’n gallu atal y bobl sy’n eich gorfodi i briodi rhag gwneud pethau penodol fel gwneud trefniadau priodas neu ymddwyn yn fygythiol. 

Mae hefyd yn sicrhau bod yr unigolyn a enwir yn y gorchymyn yn gwneud pethau penodol, er enghraifft, yn ildio eu pasbortau i’r llys neu’n sicrhau bod pobl ifanc yn mynd i’r ysgol.

Gallwch wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod os:

  • ydych chi neu rywun arall yn cael eich bygwth gyda phriodas dan orfod
  • ydych chi mewn priodas dan orfod.

Does dim rhaid i’r briodas fod wedi digwydd i chi gael eich amddiffyn.

Gellir gwneud gorchymyn yn erbyn un person neu fwy sy’n byw yn y DU neu dramor sy’n cyfrannu neu wedi cyfrannu at wneud unrhyw fath o drefniadau priodas dan orfod neu ddylanwadu ar y dioddefwr drwy ei gam-drin neu ei aflonyddu.

Gallai fod yn berthynas agos fel mam, ewythr, cefnder neu gyfnither neu rywun anghyfarwydd i’r dioddefwr, fel person yn y gymuned ehangach neu arweinydd crefyddol.

Torri gorchymyn

Mae’n drosedd anwybyddu unrhyw ran o Orchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod. Gall anufuddhau i Orchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod arwain at ddedfryd o hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Gwybodaeth bellach a chanllawiau

Mae gan y Forced Marriage Unit ganllawiau a chyngor ar briodas dan orfod, ar wneud cais am orchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac ar beth i’w wneud os ydych chi’n bryderus eich bod chi neu rywun arall mewn perygl.

Gallwch hefyd siarad â gwasanaeth arbenigol lleol neu Cyngor ar Bopeth.

Sut i gael cymorth a chyngor ynglŷn â’r arfer anghyfreithlon o gynnal profion gwyryfdod a hymenoplasti

Mae bellach yn anghyfreithlon cynnal, cynnig neu helpu mewn unrhyw ffordd gyda phrofion gwyryfdod neu hymenoplasti mewn unrhyw ran o’r DU, fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.

Mae’r troseddau yn dwyn uchafswm dedfryd o 5 mlynedd yn y carchar a/neu ddirwy ddiderfyn.

Os ydych chi’n cael eich effeithio gan brofion gwyryfdod neu hymenoplasti, neu os oes gennych bryderon am rywun rydych chi’n ei adnabod a allai fod mewn perygl o gael ei effeithio gan hynny, cysylltwch â’r canlynol: