Neidio i'r prif gynnwy
Jane Smith

Jane Smith yw Pennaeth Ymarfer a Gwella Cafcass Cymru

Mae Jane yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig â 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd, yn bennaf ym maes amddiffyn plant, a hynny o fewn awdurdodau lleol ac i Cafcass Cymru. Cafodd Jane ei phenodi'n Warcheidwad ad Litem a Swyddog Adrodd (GARLO) yn 2000 i ddechrau, cyn ymuno â Cafcass Cymru adeg ei sefydlu yn 2001 fel Cynghorydd Llys Teulu. Yn 2013, cafodd Jane ei phenodi'n Rheolwr Ymarfer yn nhîm De Cymru ym mis Mai 2018, cafodd ei phenodi'n Bennaeth Gweithrediadau Gwent. Ym mis Ebrill 2023, cafodd Jane ei phenodi fel ein Pennaeth Ymarfer a Gwella cyntaf: swydd newydd a chyffrous i arwain ymdrechion i sicrhau gwelliannau parhaus o ran ansawdd a chysondeb ymarfer ym mhob rhan o Cafcass Cymru.