Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol adeiladu tai cymdeithasol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Tai y mae awdurdodau lleol a chymdeithasu tai yn berchen arnynt ac yn eu rheoli yw tai cymdeithasol. Weithiau, mae cymdeithasu tai yn cael eu galw'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu RSL.

Gellir defnyddio cymorth i wneud y canlynol:

  • adeiladu tai cymdeithasol newydd
  • prynu ac adnewyddu cartrefi

Mae cyllid ar gael i gymdeithasau tai drwy 2 gronfa:

  • y grant cyllid tai
  • y grant tai cymdeithasol

Y grant cyllid tai

Rhoddir y grant cyllid tai i gymdeithasau tai. Mae i'r grant gronfa ar wahân a elwir y grant tai fforddiadwy. I awdurdodau lleol y mae'r grant hwn.

Y Grant Tai Cymdeithasol

Rhoddir y grant tai cymdeithasol i gymdeithasau tai. Cyllid ar gyfer tai cymdeithasol newydd yw hwn ond gellir ei ddefnyddio hefyd i helpu pobl i brynu cartref.

Sut mae cyllid yn cael ei wario

Rhoddir cyllid i wahanol brosiectau tai ar draws Cymru. Mae pob prosiect wedi'i seilio ar anghenion tai yr ardal leol.

Gall y cyllid helpu'r canlynol:

  • prosiectau â'r bwriad o gynyddu'r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy
  • rosiectau ar gyfer pobl hŷn, o'r fath a elwir yn dai 'gofal ychwanegol', tai i bobl hŷn yw'r rhain, ond maent hefyd yn darparu gofal ychwanegol a chymorth â thasgau bob dydd ar yr aelwyd
  • prosiectau lle nad oes llawer o alw am dai newydd mewn ardal ond maent yn helpu i wella'r gymuned
  • prosiectau i helpu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt i fyw'n annibynnol

Datblygwyr sydd eisiau adeiladu tai cymdeithasol newydd

Cysylltwch ag un o'r canlynol i gael rhagor o wybodaeth: