Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau am beth i’w wneud os oes gennych bryderon am ddiogelwch eich fflat o ran tân.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych yn byw mewn fflat uchel, mae pawb yn gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad.

Perchennog yr adeilad

Mae perchennog yr adeilad yn gyfrifol am ddeunyddiau’r adeilad. Er enghraifft, y drysau tân. Rhaid i’r rhain gyrraedd y safonau gofynnol.

Trigolion

Drysau tân yw drysau blaen fflatiau yn aml iawn. Os ydych yn byw mewn fflat, rydych yn gyfrifol am gadw eich fflat a’ch drws tân mewn cyflwr da. Rhaid i’r drws tân gael ei gadw ar gau yn hytrach na’i ddal ar agor.

Ni ddylech newid y drysau tân heb ganiatâd perchnogion yr adeilad.

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch eich fflat

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch eich adeilad neu eich fflat o ran tân, cysylltwch ag un o’r canlynol:

  • landlord
  • perchennog yr adeilad
  • y person sy’n gyfrifol am yr adeilad

Mwy o wybodaeth

Ewch i wefan Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Tân. (Saesneg yn unig)