Sut ydym am wella'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw.
Cynnwys
Beth yw'r economi sylfaenol?
Mae'r economi sylfaenol yn cynnwys sectorau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.
Mae'r sectorau hyn:
- yn llunio'r gwasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio a'r lleoedd rydyn ni'n byw ynddynt
- yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd a'n cymunedau
Rydym am gefnogi'r bobl a'r sefydliadau sy'n gweithio yn y sectorau hyn:
- i wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn hawdd cael gafael arnynt
- i roi mwy o ymdeimlad o reolaeth a pherthyn i bobl yn eu cymunedau
Sectorau rydyn ni'n canolbwyntio arnynt
Rydym yn canolbwyntio ar y rhannau canlynol o'r economi sylfaenol:
- gwasanaethau gofal ac iechyd, gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant
- rheoli tai cymdeithasol
- adeiladu adeiladau preswyl a masnachol
- ynni a chyfleustodau
- bwyd
- siopau a gwasanaethau'r stryd fawr
- twristiaeth
- trafnidiaeth gyhoeddus
Pam mae'r economi sylfaenol yn bwysig
Mae cefnogi’r economi sylfaenol yn ymrwymiad allweddol yn ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi: Genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi
Mae'r economi sylfaenol yn cyfrif am:
- 60% o'r holl fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru
- 51% o weithwyr busnesau Cymru sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW
- 47% o'r trosiant cyffredinol yng Nghymru
Mae cryfhau'r economi sylfaenol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â heriau fel:
- mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
- creu, cadw a gwella swyddi
- datblygu sgiliau'r dyfodol
- ehangu trafnidiaeth gyhoeddus
- cyflwyno technoleg ddigidol
- creu system fwyd wydn
Yr hyn yr ydym yn anelu i'w gyflawni
- cryfhau rhannau sylfaenol yr economi, iddyn nhw allu gwrthsefyll ergydion allanol annisgwyl
- helpu busnesau Cymru i fabwysiadu egwyddorion gwaith teg a chreu swyddi medrus iawn
- gwella amodau gwaith, gan sicrhau gwaith teg, gwella sgiliau a sicrhau dilyniant gyrfa
- cynnal busnesau lleol a'u helpu i dyfu, a chylchredeg yr elw a'r cyfoeth yng nghymunedau Cymru
- gwella mynediad at nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol, gan wella lles pobl ledled Cymru
Darllenwch am ein hamcanion a'n dulliau yn yr Economi sylfaenol: datganiad cenhadaeth.
Mae ein dull gweithredu'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Astudiaethau achos
- Woosnam Dairies: daeth dyn llaeth lleol yn brif gyflenwr llaeth i ysgol yng Nghymru gyda chymorth Cyngor Caerffili.
- Awen Cultural Centre a B-Leaf: tyfu cynnyrch lleol yn gynaliadwy tra'n creu swyddi i oedolion ag anableddau dysgu.
- NappiCycle: troi gwastraff yn rhywbeth gwerthfawr drwy ddefnyddio ffibrau wedi'u hailgylchu o Ganolfan Wyliau Bluestone i adeiladu ffyrdd a phalmentydd.
- Can Cook: mynd i'r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau bwyd ffres, maethlon, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: hyrwyddo ffynonellau bwyd cynaliadwy o fewn y GIG i wella iechyd a lles gan gefnogi sector bwyd cydnerth yng Nghymru.
- Simply Do Ideas: defnyddio arloesedd digidol i helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus oresgyn rhwystrau i fanteisio ar y syniadau gorau.
- Bwydydd Castell Howell: cydweithio i ysgogi newid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn y gadwyn gyflenwi.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: yn arwain y gwaith o newid strategaethau caffael bwyd, a chydnabod eu cyfraniad at gadwyni cyflenwi lleol.
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: diweddaru strategaethau caffael bwyd i gynyddu gwariant y GIG o fewn yr Economi Sylfaenol trwy ddefnyddio mwy o gyflenwyr lleol.
- Harlech Foods: hyrwyddo gwerth cynnyrch lleol drwy gyflenwi bwyd o Gymru i'r sector cyhoeddus.
Rhagor o adnoddau
- Modiwl Dysgu Ar-lein yr Economi Sylfaenol
- Yr Economi Sylfaenol – Cynnal Cymru: yn cynnwys astudiaethau achos sy'n dangos yr Economi Sylfaenol ac arloesedd ar waith, gan gynnwys enghreifftiau o Fwrdd Iechyd Felindre, Castell Howell a Can Cook
- Online FE knowledge repository (CEIC)
- Circular Economy Innovation Communities (CEIC) - YouTube
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Adnodd Caffael Bwyd ar-lein - Meithrin Cynaliadwyedd wrth gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus i greu Cymru iachach, a mwy llewyrchus
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Cyflwyniad Fideo, Yr Athro Kevin Morgan
- Pŵer Prynu’r Plât Cyhoeddus: Canllaw cyfreithiol i fewnosod cynaliadwyedd wrth gaffael bwyd i greu Cymru iachach, fwy cyfoethog
- Gwerthoedd am Arian: Caffael Bwyd yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru (Yr Athro Kevin Morgan)
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Hwb Adnoddau
- Economi Llesiant – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Caffael yn y sector cyhoeddus | Is-bwnc | LLYW. CYMRU
- Cyngor a Chymorth i Fusnesau | Busnes Cymru (llyw.cymru)
- CLES - The national organisation for local economies
