Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydym am wella'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r economi sylfaenol?

Mae'r economi sylfaenol yn cynnwys sectorau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.

 Mae'r sectorau hyn:

  • yn llunio'r gwasanaethau rydyn ni'n eu defnyddio a'r lleoedd rydyn ni'n byw ynddynt
  • yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd a'n cymunedau

Rydym am gefnogi'r bobl a'r sefydliadau sy'n gweithio yn y sectorau hyn:

  • i wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn hawdd cael gafael arnynt
  • i roi mwy o ymdeimlad o reolaeth a pherthyn i bobl yn eu cymunedau

Sectorau rydyn ni'n canolbwyntio arnynt

Rydym yn canolbwyntio ar y rhannau canlynol o'r economi sylfaenol:

  • gwasanaethau gofal ac iechyd, gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant
  • rheoli tai cymdeithasol
  • adeiladu adeiladau preswyl a masnachol
  • ynni a chyfleustodau
  • bwyd
  • siopau a gwasanaethau'r stryd fawr
  • twristiaeth
  • trafnidiaeth gyhoeddus

Pam mae'r economi sylfaenol yn bwysig

Mae cefnogi’r economi sylfaenol yn ymrwymiad allweddol yn ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi: Genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi

Mae'r economi sylfaenol yn cyfrif am:

  • 60% o'r holl fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru
  • 51% o weithwyr busnesau Cymru sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW
  • 47% o'r trosiant cyffredinol yng Nghymru
     
Image
Map o Gymru yn dangos busnesau economi sylfaenol fel canran yn ôl rhanbarth, yn amrywio o 51% i 73%.

Mae cryfhau'r economi sylfaenol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â heriau fel:

  • mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
  • creu, cadw a gwella swyddi
  • datblygu sgiliau'r dyfodol
  • ehangu trafnidiaeth gyhoeddus
  • cyflwyno technoleg ddigidol
  • creu system fwyd wydn

Yr hyn yr ydym yn anelu i'w gyflawni

  • cryfhau rhannau sylfaenol yr economi, iddyn nhw allu gwrthsefyll ergydion allanol annisgwyl
  • helpu busnesau Cymru i fabwysiadu egwyddorion gwaith teg a chreu swyddi medrus iawn
  • gwella amodau gwaith, gan sicrhau gwaith teg, gwella sgiliau a sicrhau dilyniant gyrfa
  • cynnal busnesau lleol a'u helpu i dyfu, a chylchredeg yr elw a'r cyfoeth yng nghymunedau Cymru
  • gwella mynediad at nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol, gan wella lles pobl ledled Cymru

Darllenwch am ein hamcanion a'n dulliau yn yr Economi sylfaenol: datganiad cenhadaeth.

Mae ein dull gweithredu'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Astudiaethau achos

  • Woosnam Dairies: daeth dyn llaeth lleol yn brif gyflenwr llaeth i ysgol yng Nghymru gyda chymorth Cyngor Caerffili.
  • Awen Cultural Centre a B-Leaf: tyfu cynnyrch lleol yn gynaliadwy tra'n creu swyddi i oedolion ag anableddau dysgu.
  • NappiCycle: troi gwastraff yn rhywbeth gwerthfawr drwy ddefnyddio ffibrau wedi'u hailgylchu o Ganolfan Wyliau Bluestone i adeiladu ffyrdd a phalmentydd.
  • Can Cook: mynd i'r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau bwyd ffres, maethlon, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: hyrwyddo ffynonellau bwyd cynaliadwy o fewn y GIG i wella iechyd a lles gan gefnogi sector bwyd cydnerth yng Nghymru.
  • Simply Do Ideas: defnyddio arloesedd digidol i helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus oresgyn rhwystrau i fanteisio ar y syniadau gorau.
  • Bwydydd Castell Howell: cydweithio i ysgogi newid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn y gadwyn gyflenwi.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: yn arwain y gwaith o newid strategaethau caffael bwyd, a chydnabod eu cyfraniad at gadwyni cyflenwi lleol.
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: diweddaru strategaethau caffael bwyd i gynyddu gwariant y GIG o fewn yr Economi Sylfaenol trwy ddefnyddio mwy o gyflenwyr lleol.
  • Harlech Foods: hyrwyddo gwerth cynnyrch lleol drwy gyflenwi bwyd o Gymru i'r sector cyhoeddus. 

Rhagor o adnoddau