Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Materion y Meddwl, Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Nod Materion y Meddwl yw gwella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc 14-25 oed sy’n byw yn Nhorfaen a Blaenau Gwent. 

Mae prosiect Materion y Meddwl yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr ifanc i gyflwyno gweithdai a arweinir gan gymheiriaid ar iechyd meddwl mewn lleoliadau ieuenctid ar draws yr ardal gan weithio gyda CAMHS, Iechyd Meddwl Sylfaenol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd y beirniaid yn hoff o’r prosiect hwn yn arbennig am ei fod yn cael ei arwain gan bobl ifanc, gyda’r bobl ifanc yn nodi’r angen am wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar faterion iechyd meddwl. Maen nhw’n cyflwyno gweithdai ynghylch yr ystyriaethau ac yn bodloni anghenion rhwydwaith ehangach o bobl ifanc.