Roedd Sêr Cymru yn rhaglen gyllido gwerth miliynau o bunnoedd i ddod â thalent wyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru.
Daeth rhaglen Sêr Cymru i ben ym mis Mehefin 2023. Bydd gwerthusiad o'r ail gam yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Cefndir
Cynhyrchodd Sêr Cymru ymchwil mewn sawl maes gan gynnwys:
- deunyddiau ynni
- gwyddor yr amgylchedd
- biotechnoleg a gwyddorau bywyd
Helpodd y rhaglen i wella cydweithrediad y sector drwy ei chysylltiadau â'r byd academaidd, diwydiannau a busnesau a chynhyrchodd fwy na £180 miliwn mewn incwm grant ymchwil, gan helpu i gynyddu allbynnau ymchwil, effeithlonrwydd ac effaith Cymru.
Dros ddegawd, derbyniodd £100 miliwn mewn buddsoddiad gan:
- Lywodraeth Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Sefydliadau Addysg Uwch Cymru
- Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
- Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd
Cefnogodd hyn:
- 12 cadair ymchwil
- 11 o sêr y dyfodol
- 115 cymrodoriaeth ymchwil
- 340 ysgoloriaeth PhD ac ôl-ddoethurol
- 3 Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol: Y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Uwch Beirianneg; Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd.
Cyn-gadeiryddion Sêr Cymru:
