Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Sêr Cymru yn rhaglen gyllido gwerth miliynau o bunnoedd i ddod â thalent wyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daeth rhaglen Sêr Cymru i ben ym mis Mehefin 2023. Bydd gwerthusiad o'r ail gam yn cael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. 

Cefndir

Cynhyrchodd Sêr Cymru ymchwil mewn sawl maes gan gynnwys:

  • deunyddiau ynni
  • gwyddor yr amgylchedd
  • biotechnoleg a gwyddorau bywyd

Helpodd y rhaglen i wella cydweithrediad y sector drwy ei chysylltiadau â'r byd academaidd, diwydiannau a busnesau a chynhyrchodd fwy na £180 miliwn mewn incwm grant ymchwil, gan helpu i gynyddu allbynnau ymchwil, effeithlonrwydd ac effaith Cymru. 

 Dros ddegawd, derbyniodd £100 miliwn mewn buddsoddiad gan:

  • Lywodraeth Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Sefydliadau Addysg Uwch Cymru
  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop
  • Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd

Cefnogodd hyn:

  • 12 cadair ymchwil
  • 11 o sêr y dyfodol
  • 115 cymrodoriaeth ymchwil
  • 340 ysgoloriaeth PhD ac ôl-ddoethurol
  • 3 Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol: Y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Uwch Beirianneg; Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd.

Cyn-gadeiryddion Sêr Cymru: