Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y fforwm a sut bydd yn gweithio.
Cynnwys
Y pwrpas a’r amcanion
Pwrpas y Fforwm Cymunedau Ffydd yw hybu deialog rhwng Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau sy’n aelodau ar faterion polisi sy’n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru. Bwriedir i’r Fforwm hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r aelodau, gan arwain at benderfyniadau mwy gwybodus, a gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.
O fewn y pwrpas eang hwn, gellir codi unrhyw faterion sy’n peri pryder i aelodau yng Nghymru, ac yn yr un modd, gall unrhyw faterion yr hoffai gwleidyddion ymgynghori â’r aelodau yn eu cylch gael eu cynnig i’r Fforwm eu trafod a’u hystyried.
Nod y Fforwm yw creu cyfleoedd i’r cymunedau sy’n aelodau siarad drostynt eu hunain yn y ddeialog hon. Mae’n bwysig clywed yr ystod o safbwyntiau; fodd bynnag, nid yw’n ofynnol bod y Fforwm hwn yn cytuno ar un farn ar y cyd ar ran yr holl aelodau ar unrhyw fater penodol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y safbwyntiau a godir gan yr aelodau wrth ystyried materion polisi perthnasol, ond mater i Weinidogion Cymru yw’r penderfyniad terfynol ar sut i symud ymlaen o hyd.
Aelodaeth
Cadeirydd y Fforwm sy’n gyfrifol am benderfyniadau yn ymwneud ag aelodau’r Fforwm Cymunedau Ffydd. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yw Cadeirydd y Fforwm. Mae cyfeiriadau at y term ‘aelod’ yn y ddogfen hon yn cynnwys aelodau ac aelodau cyswllt.
Gellir atal aelodaeth dros dro neu ei therfynu’n barhaol pan fydd cynrychiolwyr yn torri’r Disgwyliadau Ymddygiad (gweler Atodiad A).
Aelodau’r fforwm yw:
- Cymuned Fwslimaidd Ahmadiyya
- Cyngor Bahá’í Cymru
- Cyngor Bwdhaidd Cymru
- Yr Eglwys yng Nghymru
- Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
- Eglwysi Ynghyd yng Nghymru (Cytûn)
- Cynghrair Efengylaidd Cymru
- Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
- Cyngor Hindwiaid Cymru
- Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
- Cyngor Mwslimiaid Cymru
- Yr Eglwys Gatholig yng Nghymru
- Cyngor Sikhiaid Cymru
- Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru (cynrychiolydd Uniongred)
- Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru (cynrychiolydd Diwygiedig)
- Dyneiddwyr Cymru (aelod cyswllt)
Gall aelodau newydd wneud cais ar unrhyw adeg a bydd y Cadeirydd yn ystyried pob achos. Gellir cyflwyno ceisiadau drwy Gyngor Rhyng-ffydd Cymru, neu’n uniongyrchol i’r Cadeirydd.
Disgwylir i’r holl aelodau gynnal perthynas gadarnhaol rhwng pobl o wahanol grefyddau neu gredoau, a chefnogi cenhadaeth y Fforwm o gyd-ddealltwriaeth, deialog rhyng-ffydd a chydlyniant cymdeithasol. I barhau i fod yn aelodau, bydd disgwyl i bawb weithio’n ddiwyd tuag at yr amcan hwn drwy’r Fforwm.
Mae pob penderfyniad a wneir gan y Cadeirydd ar faterion sy’n ymwneud ag aelodaeth yn derfynol.
Mae’r disgwyliadau o ran ymddygiad holl aelodau’r Fforwm wedi’u nodi yn Atodiad A. Nodir y broses gwyno yn Atodiad B.
Cyfarfodydd
Bydd y Fforwm yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn fel y trefnir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip. Gellir galw cyfarfodydd ychwanegol ad hoc os oes angen ar gais Ysgrifennydd y Cabinet.
Darperir yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm gan swyddogion Llywodraeth Cymru o’r Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gall aelodau ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu agendâu yn amserol ar gyfer cyfarfodydd, yn ogystal ag adnoddau cefndir priodol i lywio’r drafodaeth. Gall aelodau hefyd ddisgwyl cael cyfle i gyfrannu at gynllunio’r agendâu ar gyfer cyfarfodydd. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am gyfraniad sylweddol ar bolisi, dylid darparu cyfnod rhesymol o amser i aelodau gynnal ymgynghoriad priodol o fewn eu sefydliad a’u cymunedau.
Mae disgwyl i’r aelodau fynd i bob cyfarfod. Os nad ydynt yn gallu anfon cynrychiolydd, dylent, lle bo’n bosibl, enwebu cynrychiolydd addas o’u sefydliad neu gymuned i fynychu’r cyfarfod yn eu lle. Dylid rhoi gwybod i’r ysgrifenyddiaeth pwy fydd yn mynychu ymlaen llaw. Os nad oes neb yn gallu mynychu’r cyfarfod ar ran aelod, dylid rhoi gwybod i’r ysgrifenyddiaeth ymlaen llaw.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r aelodau gynnal ymgyngoriadau â’u cymunedau a’u rhwydweithiau eu hunain ac i baratoi eu mewnbwn a chyfrannu at gyfarfodydd, gan sicrhau eu bod yn cynrychioli’r amrywiaeth o safbwyntiau o fewn y sefydliadau y maent yn eu cynrychioli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cynhwysiant ac amrywiaeth, felly os oes gan fynychwyr cyfarfodydd unrhyw ofynion hygyrchedd penodol er mwyn gallu ymuno â chyfarfod, megis lle parcio hygyrch, dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gofynion o ran ieithoedd eraill, deunyddiau mewn fformat gwahanol, system dolen sain, neu unrhyw ofynion eraill, dylent roi gwybod i’r ysgrifenyddiaeth cyn gynted ag y bo modd ac fe wnawn ein gorau i fodloni’ch gofynion.
Cyhoeddi dogfennau
Cyhoeddir y cylch gorchwyl ar wefan Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru.
Bydd nodyn cryno o’r holl gyfarfodydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.
Bydd cofnodion llawn y cyfarfod yn cael eu dosbarthu i’r holl aelodau.
Bydd y cylch gorchwyl hwn yn cael ei adolygu yn rheolaidd gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Fforwm i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn berthnasol dros amser.
Darpariaeth derfynol
Gellir amrywio’r cylch gorchwyl hwn ar unrhyw adeg ac nid yw’n arwain at rwymedigaethau cyfreithiol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Llywodraeth Cymru nac aelodau.
Atodiad A: disgwyliadau ymddygiad
Ymddygiad grŵp
Rhaid i aelodau’r Fforwm ac unrhyw un arall sy’n mynychu cyfarfodydd ddangos parch at ei gilydd wrth gyfathrebu. Bydd unrhyw un sy’n torri’r rheol hon yn cael ei hysbysu bod eu hymddygiad yn dramgwyddus, yn ddiangen neu’n ddi-fudd, a gofynnir iddynt stopio.
Mae gan bob aelod o’r Fforwm yr hawl i beidio â dioddef iaith neu ymddygiad ymosodol, camdriniol neu sarhaus. Bydd angen i bob aelod barchu safbwyntiau gwahanol a dangos cwrteisi proffesiynol wrth ymateb i safbwyntiau gwahanol.
Cyfrinachedd
Dylai aelodau’r Fforwm barchu cyfrinachedd trafodaethau’r Fforwm. Ni ddylid rhannu cofnodion nac unrhyw ddogfennau a rennir gyda’r Fforwm i’w hystyried yn ehangach oni bai y cytunir ar hyn ymlaen llaw.
Terfynu aelodaeth
Lle ceir achosion o dorri’r disgwyliadau uchod dro ar ôl tro, gall y Cadeirydd ofyn i’r aelod adael cyfarfod neu adael y Fforwm yn barhaol.
Atodiad B: gweithdrefn gwyno
Dylid cyfeirio unrhyw gŵyn nad yw aelod yn bodloni’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan yr holl gyfranogwyr at y Cadeirydd, neu swyddogion yr ysgrifenyddiaeth, a fydd yn trafod y mater gyda’r Cadeirydd i ddechrau.
Os na ellir datrys cwyn yn anffurfiol, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfryngu, os yw hynny’n briodol, i sicrhau y gall y grŵp barhau i weithredu’n effeithiol.
Os na ellir datrys y mater trwy gyfryngu, neu os nad yw cyfryngu yn cael ei ystyried yn briodol, gall swyddogion wneud argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a all, yn y pen draw, ddiarddel aelodau o’r grŵp.
Mae’r holl benderfyniadau a wneir yn hyn o beth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn derfynol.
