Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y pwyllgor a sut y bydd yn gweithio.

Rȏl y Pwyllgor fydd craffu ar waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion megis gwerth am arian a sut y mae’r Ganolfan yn ymateb i bolisïau Llywodraeth Cymru.

Gofynnir i’r Pwyllgor Craffu ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Ydy trefniadau llywodraethiant, strwythur a systemau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn briodol ac yn sicrhau gwerth am arian?
  • Ydy cyfeiriad a blaenoriaethau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn unol ag argymhellion adroddiad y Grŵp Adolygu?
  • Ydy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cymryd y camau priodol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn briodol o ran ansawdd a nifer y dysgwyr?
  • A yw’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflawni’r amcanion a’r targedau a gytunwyd fel rhan o’r cytundeb grant?

Rhagwelir y bydd y Pwyllgor Craffu yn gwneud eu gwaith drwy brosesau fel a ganlyn:

  • Ystyried adroddiadau monitro ar y cynnydd gyda’r gwaith a’r gofrestr risg.
  • Trafodaethau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  • Trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
  • Trafodaethau gyda darparwyr.
  • Ceisiadau am wybodaeth oddi wrth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
  • Cynnig cyngor ar gyfeiriad y gwaith ac awgrymu newidiadau.
  • Rhoi cyngor ar unrhyw faterion sydd yn cael eu codi.
  • Mynychu o leiaf 2 gyfarfod yn flynyddol.