Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y pwyllgor a sut y bydd yn gweithio.
Rȏl y Pwyllgor fydd craffu ar waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion megis gwerth am arian a sut y mae’r Ganolfan yn ymateb i bolisïau Llywodraeth Cymru.
Gofynnir i’r Pwyllgor Craffu ystyried y cwestiynau canlynol:
- Ydy trefniadau llywodraethiant, strwythur a systemau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn briodol ac yn sicrhau gwerth am arian?
- Ydy cyfeiriad a blaenoriaethau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn unol ag argymhellion adroddiad y Grŵp Adolygu?
- Ydy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cymryd y camau priodol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn briodol o ran ansawdd a nifer y dysgwyr?
- A yw’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflawni’r amcanion a’r targedau a gytunwyd fel rhan o’r cytundeb grant?
Rhagwelir y bydd y Pwyllgor Craffu yn gwneud eu gwaith drwy brosesau fel a ganlyn:
- Ystyried adroddiadau monitro ar y cynnydd gyda’r gwaith a’r gofrestr risg.
- Trafodaethau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
- Trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.
- Trafodaethau gyda darparwyr.
- Ceisiadau am wybodaeth oddi wrth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
- Cynnig cyngor ar gyfeiriad y gwaith ac awgrymu newidiadau.
- Rhoi cyngor ar unrhyw faterion sydd yn cael eu codi.
- Mynychu o leiaf 2 gyfarfod yn flynyddol.